Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn 20 oed mewn cysylltiad â'r tân wnaeth ddifrodi Capel y Tabernacl yn Aberystwyth fis Gorffennaf y llynedd.
Fe fydd y dyn, sy'n dod o'r dref, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ar Ionawr 28.
Dywedodd llefarydd: "Mae dyn 20 oed o Aberystwyth wedi cael ei gyhuddo o losgi bwriadol."
Bu'n rhaid i 12 o bobl adael eu cartrefi ar ôl y tân yn yr adeilad pedwar llawr.
O ganlyniad, fe adawodd y 12 eu tai yn Stryd Powell y tu ôl i'r capel.
Cafodd yr adeilad ei dymchwel yn ddiweddarach gan ei bod hi'n anniogel.
Roedd yr adeilad o oes Fictoria wedi bod yn wag am fwy na phum mlynedd.
Fe gaeodd yr adeilad, sy'n dyddio'n ôl i 1880, ym mis Tachwedd 2002 oherwydd costau cynnal a chadw.