Clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru fydd yn rheoli Cyngor Caerdydd dros y pedair blynedd nesaf.
Dyma'r cytundeb diweddaraf i gael ei gyhoeddi wrth i'r pleidiau benderfynu pwy fydd yn cydweithio yn dilyn yr etholiadau lleol bythefnos yn ôl.
Yng Nghonwy, fe fydd Plaid Cymru'n arwain clymblaid sy'n cynnwys pob plaid heblaw am y Ceidwadwyr.
Mae'r trafod yn parhau ynglŷn â sefydlu clymbleidiau mewn sawl awdurdod arall.
"Prif Weledigaeth" yw enw'r ddogfen sy'n sail i'r glymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd.
Rhaglen gyffrous
Mae'n rhoi addewid i wahardd defnyddio arian preifat ar gyfer prosiectau cyhoeddus a chyflwyno newidiadau mawr i gynlluniau dadleuol i ad-drefnu ysgolion y brifddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol, fydd yn arwain y cyngor: "Dwi'n credu bod y cytundeb yma'n caniatáu i ni fwrw ymlaen gyda rhaglen gyffrous ar gyfer rheoli'r ddinas dros y pedair blynedd nesa".
Y Cynghorydd Neil McEvoy o Blaid Cymru fydd y Dirprwy Arweinydd.
"Rydyn ni'n hapus iawn", meddai.
"Mae'n ddiwrnod hanesyddol, gyda Phlaid Cymru am y tro cyntaf yn chwarae rhan yn rheoli prifddinas Cymru."
Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Conwy yn cynnwys aelodau o Blaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol.
Yn dilyn yr etholiadau lleol ar Fai 1 dim ond mewn pedwar cyngor oedd gan un blaid fwyafrif clir.
Rhaid i'r cytundebau ar draws awdurdodau lleol Cymru gael eu cymeradwyo'n swyddogol mewn cyfarfodydd cyngor dros yr wythnosau nesaf.