Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 14 Mai 2008, 15:03 GMT 16:03 UK

£40m o gocên: Dyn yn euog

Paul Stromberg (chwith) a Paul Clough

Yn Llys y Goron Woolwich yn Llundain mae dyn busnes oedd yn byw yn Y Fenni wedi ei gael yn euog o geisio smyglo gwerth £40 miliwn o'r cyffur cocên i Brydain.

Fe gafodd y cyffuriau eu cuddio mewn cwch o'r enw Samantha oedd i fod i gael ei gludo o Venezuela i Brydain.

Fe fydd Paul Stromberg, 42 oed, yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad o smyglo ond wedi pledio'n euog i gyhuddiad o feddu ar bum cilo o gocên.

Mae dyn arall, Paul Clough, wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad o smyglo cyffuriau.

Clywodd y llys fod 300 cilo o'r cyffur wedi eu cuddio mewn adran fach o dan y tanc tanwydd.

'Ymhlith y puraf'

Roedd yr heddlu wedi dweud mai'r cyffur oedd "ymhlith y puraf erioed".

Mae wedi cyfadde iddo geisio cludo'r cwch i Brydain ond wedi dweud nad oedd yn gwybod am y cyffuriau oedd wedi cael eu cuddio.

Clywodd y llys fod y ddau wedi teithio i Venezuela ond bod Stromberg wedi honni ei fod ar wyliau pysgota.

Ym mis Chwefror y llynedd ffilmiodd heddlu Venezuela y cwch yn cyrraedd stordy ym mhorthladd Puerto Caballo.

Wrth ddefnyddio cyfarpar pelydr-X daeth yr heddlu o hyd i nifer o flociau o'r cyffur o dan lawr ffug.





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd