Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 14 Mai 2008, 08:48 GMT 09:48 UK

Gwyl Geltaidd: Sylw i Gymru

Lorient Cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant Cymru fydd yn cael y sylw mawr yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Awst.

Fe fydd mwy na 200 o berfformwyr o Gymru yn un o wyliau Celtaidd mwyaf y byd, yn Llydaw rhwng Awst 1 a 10.

Cymru fydd y brif wlad yn yr ŵyl gafodd ei lansio ym Mharis nos Fawrth.

Mae'r ŵyl, sy wedi cael ei chynnal bob blwyddyn ers 1971, yn cynnwys perfformwyr enwog fel Catrin Finch.

Ac mae mwy na 700,000 yn mynd i'r digwyddiad bob blwyddyn.

Artistiaid o Gymru


Fe fydd y band roc Sibrydion yn perfformio ddydd Gwener, Awst 1.

Ar Awst 2 fe fydd Dathliad Gala Blwyddyn Cymru dan arweiniad y Aneirin Karadog, y bardd a'r cyflwynydd teledu, a Siân Melangell Dafydd, yr awdur a'r beirniad llenyddol.

Clerorfa, cerddorfa werin o 50 o delynau, ffidlau, ffliwtiau, cornbibau a phibgodau, fydd yn perfformio yn ogystal â Dawnswyr Môn, Sidan a Chôr Meibion Dowlais.

Fe fydd cyngerdd ddydd Llun, Awst 4, yn cynnwys y delynores fydenwog Catrin Finch, Crasdant, Clerorfa a Chôr Meibion Dowlais.

Drwy gydol yr ŵyl mae arddangosfa o waith yr artistiaid gweledol Iwan Bala a John Uzzel-Edwards, yn adeilad y Siambr Fasnach yng nghanol y ddinas.

Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru: "Fe fydd dinas Lorient yn llawn o gerddoriaeth, celf a diwylliant o Gymru am 10 niwrnod ym mis Awst - gan amrywio o'r traddodiadol i'r cyfoes.

Lorient

"Fe fydd gan fwy na 500,000 o ymwelwyr y cyfle i ddysgu mwy am Gymru fel lleoliad twristiaeth, busnes ac addysgiadol delfrydol.

"Ac fe ddylai hyn olygu manteision mawr i Gymru."

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth: "Fe fydd yr ŵyl hon yn dangos bod Cymru'n wlad hyderus, flaengar ac amlieithog."





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Gwyl Lorient
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd