Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 15:16 GMT 16:16 UK

Dyn yn farw yn ei wely am dri mis

Heddlu Mae crwner wedi dweud bod achos dyn 57 oed oedd wedi gorwedd yn farw yn ei wely am dri mis yn "adlewyrchiad trist" ar gymdeithas.

Daethpwyd o hyd i Ian Barclay ar ôl i berchennog y fflat yr oedd yn ei rhentu yn Harlech, Gwynedd, gysylltu â'r heddlu.

Clywodd Llys Crwner Dolgellau nad oedd modd cadarnhau achos marwolaeth Mr Barclay yn ystod yr archwiliad post mortem.

Cofnododd y crwner Dewi Pritchard Jones ddyfarniad agored.

Dywedodd: "Mae'n adlewyrchiad trist ar gymdeithas ddi-hid fod dyn yn gorwedd yn ei wely am dri mis ac yn pydru a neb yn mynegi unrhyw bryder nac yn gofyn amdano."

Ac fe ddywedodd y Cwnstabl Eifion Jones wrth y cwest: "Chwe wythnos cyn galw'r heddlu roedd y perchennog wedi mynd i'r fflat, heb gael ateb ac wedi meddwl bod ei thenant allan."

Torrodd yr heddlu i mewn a dod o hyd i'r corff.

Fe ddywedodd yr heddwas: "Roedd calendr ar y wal a'r dyddiau hyd at Fedi 6 i gyd wedi eu marcio.

"Roedd fel pe bai popeth yn y fflat wedi dod i ben ar Fedi 6.

"Ac roedd pentwr o lythyrau ar y llawr a chofnod banc ddyddiedig Medi 14".





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Heddlu'r Gogledd
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd