Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 12:12 GMT 13:12 UK

Diwrnod i ddathlu'r Gamp Lawn

Stereophonics Bydd cyngerdd yn rhad ac am ddim yn Stadiwm y Mileniwm yn dathlu llwyddiant tîm rygbi Cymru wrth ennill y Gamp Lawn.

Mae'r Stereophonics a Feeder ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar Fai 26.

Bydd y capten Ryan Jones a gweddill y garfan yn bresennol.

Yn ogystal ag artistiaid yn perfformio fe fydd deunydd am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar sgrîn fawr.

Artistiaid eraill sy'n cymryd rhan yw Rhydian Roberts o'r X-Factor a'r gantores Heather Small.

Bydd y tocynnau ar gael oddi wrth glybiau rygbi yn Undeb Rygbi Cymru o ddydd Gwener ymlaen.

Ac fe fydd y tocynnau ar gael o siop yr Undeb yn Stadiwm y Mileniwm a Siop Ticketline yng Nghaerdydd.

Dathlu llwyddiant

Bydd uchafswm o chwe thocyn ar gyfer bob person.

"Dylai pobl gysylltu'n fuan oherwydd rydyn ni'n disgwyl i'r tocynnau fynd yn gyflym," meddai llefarydd.

Bydd tîm y merched, timau cenedlaethol o bob oedran a thîm saith bob ochr yn cymryd rhan.

"Hwn yw un o'r tymhorau rhyngwladol gorau erioed, gyda'r timau cenedlaethol ar bob lefel ond yn colli tair allan o 23," meddai'r llefarydd

Yn ôl Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, roedd galw mawr am ddathliad o'r fath.

"Bydd Gŵyl y Banc yn achlysur mawr i gefnogwyr rygbi neu chwaraeon yn gyffredinol ac unrhyw un sy'n falch o fod yn Gymro."

Yn 2005 roedd 20,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm wrth ddathlu llwyddiant tîm 2005 wrth ennill y Gamp Lawn.




HEFYD:
Cymru'n cipio'r Gamp Lawn (15 Maw 08 |  Newyddion )
Cymru'n cipio'r Goron Driphlyg (08 Maw 08 |  Newyddion )
Dathlu yn Stadiwm y Mileniwm (03 Mai 05 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Undeb Rygbi Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd