Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 07:00 GMT 08:00 UK
Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl i gorff menyw 27 oed gael ei ddarganfod mewn tŷ yng Nghasnewydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Maendy yn gynnar bore Mawrth.
Galwyd parafeddygon i'r tŷ yn Stryd Dewstow ychydig cyn 3am.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn ac yn apelio am dystion.
Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd