Mae ymgyrch yn cael ei lansio sy'n anelu at godi nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru.
Bydd naw elusen yn dod at ei gilydd i berswadio llawer mwy i roi organau.
Dyma'r tro cynta i ymgyrch fel hyn ddigwydd yng Nghymru
Ar hyn o bryd mae tua 470 o bobl yng Nghymru'n aros am drawsblaniad organ tra bod 780,000 ar gofrestr rhoi organ.
Mae'r trefnwyr wedi dweud taw nod yr ymgyrch yw "annog pobl i drafod rhoi organ".
Roy Thomas, cadeirydd gweithredol Sefydliad Aren Cymru, sy'n lansio ymgyrch Rhoddwch Gymru - Dywedwch wrth Rywun Agos y tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.
Fe fydd 150 o falŵns yn cael eu gollwng i'r awyr, hynny yw nifer y rhai sy wedi marw yng Nghymru ers 2003 wrth aros am roddwr - a 471 arall, hynny yw y rhai sy'n dal i aros.
Dywedodd Mr Thomas: "Os ydyn ni am leihau'r bwlch rhwng nifer y rhai sy'n aros am organ a nifer yr organau ar gael, rhaid i ni drafod â'n teulu ein dymuniad i fod yn rhoddwyr organau pan fyddwn ni'n marw ..."
Ym mis Mawrth cyhoeddwyd y byddai ymgynghoriad oherwydd newid posib o ran sut mae organau'n cael eu rhoi yng Nghymru.
Un o bwyllgorau'r cynulliad sy'n ymchwilio a ddylid cyflwyno trefn caniatâd tybiedig o ran rhoi organau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae modd cymryd organau oddi wrth bobl sydd wedi eu cofrestru fel rhoddwyr.
Ers pum mlynedd mae 750 wedi cael trawsblaniad a'u bywyd wedi newid er gwell.
Dywedodd llysgennad y Sefydliad Aren, Allison John,: "Fe fyddwn i wedi marw 13 blynedd yn ôl oni bai am y bobl garedig roddodd organau i mi.
"Oherwydd yr hyn wnaethon nhw dwi wedi cael cyfle i fynd i'r brifysgol, teithio'r byd a byw bywyd normal."
Roedd y fenyw 29 oed o Gaerdydd wedi cael trawsblaniadau iau, calon, ysgyfaint ac aren.
'Yn bwysig'
Fe fydd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart a Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan yn y lansiad.
"Dyw pobol ar y cyfan ddim am feddwl am yr hyn sy'n digwydd i ni a'n horganau ar ôl marw ...," meddai Ms Hart.
"Ond mae'n bwysig ein bod ni'n trafod y posibilrwydd â'n teuluoedd."