Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 07:34 GMT 08:34 UK

£6m i daclo gordewdra plant

Peiriant gwerthu bwyd

Mae'r dasg o daclo gordewdra plant wedi cael hwb o £6.3 miliwn

Y Gronfa Loteri Fawr sy wedi rhoi'r arian i brosiectau drwy Gymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Mae mwy o blant yng Nghymru dros eu pwysau nag erioed o'r blaen.

Bydd 14 o brosiectau yn elwa ar yr arian o dan raglen Teuluoedd Iach y gronfa.

Nod y prosiectau yw datblygu ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyta a byw'n iach.

Tri phatrwm

Bydd y prosiectau yn defnyddio tri phatrwm i gyflwyno'r nod o fyw'n iach.

Nod Ffrindiau Iach yw hybu bwyta'n iach a gwneud ymarfer corff drwy ddefnyddio plant hŷn fel mentoriaid i blant iau.

Mae Tiwtoriaid Iach yn rhoi cyngor a chefnogaeth i blant a'u teuluoedd tra bydd Lleoedd Iach yn cynnal gweithgareddau cymunedol i hybu byw'n iach.

Dywedodd Graham Benfield, aelod pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a chadeirydd pwyllgor rhaglen Teuluoedd Iach: "Mae gordewdra plant yn bryder mawr sy'n wynebu teuluoedd a'r llywodraeth yng Nghymru.

"Mae tystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos bod prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn drwy gynnwys y teulu cyfan yn fwy llwyddiannus a dyna pam fod y Gronfa Loteri Fawr wedi datblygu'r rhaglen Teuluoedd Iach."

'Closio'

Un o'r prosiectau fydd yn derbyn arian gan y gronfa yw Clybiau Plant Cymru Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio gyda chlybiau ar ôl ysgol.

Dywedodd rheolwraig prosiect Clybiau Plant Cymru, Karen Pereira, eu bod yn falch o dderbyn yr arian.

"Rydyn ni'n credu bod plant yn dysgu'n well oddi wrth blant hŷn ac felly fe fydd plant 10-11 oed yn ein clybiau ni'n 'closio' at blant rhwng saith ac wyth oed," meddai.

"Dros gyfnod o dair blynedd, hynny yw hyd y prosiect hwn, rydyn ni'n gobeithio newid yn fawr agweddau plant at fwyd ac ymarfer corff," ychwanegodd.





HEFYD:
Gofyn barn am ansawdd bwyd (25 Medi 07 |  Newyddion )
Cinio: Cadw plant yn ysgol? (06 Medi 07 |  Newyddion )
'Angen bwyd ysgol iachach' (25 Medi 03 |  Newyddion )
Iwerddon yn dilyn y Criw Bwyd (19 Chwef 07 |  Newyddion )
'Mwy o bwysau ar ysbytai' (29 Rhag 03 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Y Gronfa Loteri Fawr
Clybiau Plant Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd