Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 06:09 GMT 07:09 UK

Rhoi bywyd yn yr hen gorff

Capel Bethania Cwm Nedd

Mae cynllun arloesol yn golygu troi adeilad cofrestredig yn ganolfan gymunedol.

Llwyddodd Cyngor Tref Glyn-nedd i brynu Capel Bethania, capel y Methodistiaid Calfinaidd, gafodd ei godi fwy na chanrif yn ôl.

Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn llenwi bwlch ar gyfer y gymuned wedi i Neuadd y Glowyr gael ei dymchwel dair blynedd yn ôl.

Mae'r prysurdeb y pyllau glo nawr yn atgof.

Adeilad ar y stryd fawr sydd wedi tystio i'r newid ydi Capel Bethania.

Dim arian

Wrth i'r boblogaeth leihau mae nifer yr addolwyr wedi lleihau hefyd.

Gan mai dim ond pum aelod oedd ar ôl fe benderfynwyd gwerthu'r adeilad.

Yn ôl un o'r aelodau, roedd cynnal a chadw unig adeilad cofrestredig y dref yn her.

Tu mewn i Gapel Bethania, Cwm Nedd

"Odd e'n anhygoel o anodd, dim ond pump oedd yn gallu mynd i'r capel ar y diwedd," meddai Delyth Penri Evans.

"Doedd neb ar gael i chwarae'r piano a dim digon o arian i dalu am y trydan ...

"Ry'n ni'n falch bod y cyngor tre wedi prynu'r adeilad neu fe fyddai wedi dirywio."

Er mawr ryddhad i'r aelodau, mae'r cyngor tref wedi llwyddo i brynu'r capel.

Eicon

"Oedd pawb yn drist iawn pan gafodd y neuadd ei dymchwel ac fel cyngor roedden ni wedi gobeithio ei phrynu a'i defnyddio fel canolfan," meddai'r Cynghorydd Del Morgan.

"Yn anffodus, fe wnaeth rhywun preifat ei phrynu a'i dymchwel.

"O'n i'n ymwybodol fod Capel Bethania yn cau, un o'r eiconau olaf, eicon o orffennol Cwm Nedd.

"Ac o'dd yn bwysig i'r gymuned na fydden ni'n colli hwn fel y collwyd yr adeilad arall."

Hen lun o Gapel Bethania, Cwm Nedd

Mae'r cyngor eisoes wedi cael ychydig o grantiau ac maen nhw'n gobeithio ennill mwy o arian i orffen y dasg o gael dosbarthiadau a chaffi yn yr hen gapel.

Ac mae un o reolau Cadw'n golygu y bydd y pulpud mawr yn cael ei gadw.

Felly fe fydd 'na dalp o hanes y gorffennol yn ganolbwynt i ganolfan y dyfodol.





Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd