Mae'r heddlu wedi rhoi rhybudd i gyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Rod Richards, ar ôl ymosodiad honedig ar un o ymgyrchwyr y blaid.
Fe gafodd y cyn AC a chyn-aelod lywodraeth John Major ei arestio nos Fercher.
Cafodd cyn AS ac AC Gorllewin Clwyd ei gadw yng ngorsaf Heddlu'r Tyllgoed yng Nghaerdydd dros nos.
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, honnodd un o weithwyr y blaid fod Mr Richards wedi ymosod ar ganfasiwr ger ei gartre.
"Fe gafodd ei ysgwyd ... yn fwy na dim arall," meddai'r llefarydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 61 oed wedi cael ei arestio yn Y Tyllgoed nos Fercher.
"Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod cyffredin ac mae'n cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu'r Tyllgoed."