Mae honiadau fod wyneb ceffyl wedi cael ei anafu a sloganau gwrthSeisnig wedi eu hysgrifennu ar stablau menyw o Gaerdydd sydd wedi symud i fyw i Sir Benfro.
Dywedodd Alison Hayes ei bod hi wedi dod o hyd i'r ferlen, Hope, yn gwaedu oherwydd anaf.
Wrth iddi roi sylw, meddai, i'r anifail yn Nhegryn, ger Crymych, fe sylwodd ar graffiti Cymraeg yn dweud "Cai maes Sais ".
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio.
Fe symudodd Mrs Hayes a'i gŵr i'r ardal y llynedd gyda'r bwriad o agor stablau ar gyfer merlota.
'Ddim yn deall'
Fe ddywedodd hi fod yr ymosodiad yn "ofnadwy" a bod yr anifail wedi cael braw.
"Dwi ddim yn deall, dwi o Gaerdydd - dyna ble ces i 'ngeni.
"Mae fy mam a'n nhad yn Gymry - dwi ddim yn deall beth sy'n mynd 'mlaen.
"Ardal Gymraeg yw hon ac mae'n bosib eu bod nhw wedi camgymryd acen Caerdydd am acen Saesneg."
Fe ddywedodd fod yr ymosodiad yn "greulon iawn".
"Mae cymhelliad y bobl hyn yn gwbl hurt ac mae'n gywilydd eu bod nhw wedi ymosod ar geffyl diniwed."