Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad gan eu cyhuddo o "wrthod cefnogaeth ariannol ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg".
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas mae cyn aelod cynulliad ac aelod seneddol Cynog Dafis a chefnogwyr eraill Y Byd yn cyhuddo'r llywodraeth o 'fradychu ymrwymiad. "
Ond mae Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas AC, wedi dweud wrth y BBC bod pobl sy'n credu bod modd i lywodraeth gynnal papur dyddiol drwy ei sybsideiddio gyda hysbysebion yn byw "yng ngwlad y gwcw".
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd cwmni Dyddiol oedd tu cefn i bapur Y Byd na fyddan nhw'n ceisio sefydlu papur dyddiol, am ei fod yn "gwbl glir" y byddai grant o £200,000 y flwyddyn yn annigonol ar gyfer sefydlu papur dyddiol.
'Difrifol'
Ddechrau'r mis cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas y byddai £200,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gael i'r wasg Gymraeg ac y byddai'n rhaid i gwmnïau gystadlu am yr arian.
Mae'r llythyr agored yn cyhuddo'r gweinidog o fod wedi "bradychu ymrwymiad diamwys a wnaed yng nghytundeb Cymru'n Un y byddai'r Llywodraeth yn 'cynyddu'r cyllid a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur dyddiol Cymraeg'.
"Mae bradychu ymrwymiad maniffesto yn fater difrifol iawn ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch integriti gwleidyddol a dilysrwydd ymrwymiadau eraill - cyfredol ac i'r dyfodol."
Yn ôl awduron y llythyr - Anna Brychan, Llinos a Cynog Dafis, Hywel Teifi Edwards, Meredydd Evans, Heini Gruffudd, Emyr Humphreys, Richard Wyn Jones, Gareth Miles, Jan Morris, Wynford Elis Owen, John a Luned Rowlands:
"O ran datblygiad y Gymraeg, a'r wasg Gymraeg yn benodol, mae'n anodd dychmygu unrhyw ffordd well o gynyddu nifer y darllenwyr Cymraeg ac o estyn defnydd cyffredin o'r iaith i feysydd newydd."
'Dadrithiad'
Maen nhw o'r farn mai "ffuantus yw awgrymu bod darparu £200,000 y flwyddyn dros dair blynedd yn peri bod posibilrwydd sefydlu papur dyddiol yn dal yn agored".
Maen nhw'n dod i'r casgliad mai: "nid bychan yw'r dadrithiad y mae eich penderfyniad, ar ran llywodraeth glymblaid â Phlaid Cymru yn bartner allweddol ynddi, wedi ei achosi ymysg llawer iawn o Gymry taer" ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ail feddwl.
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas AC, fod rhai o gefnogwyr Y Byd yn byw yng "ngwlad y gwcw'.
"Os oedd 'na rai pobl yn meddwl bod modd i lywodraeth genedlaethol roi arian i bapur newydd unigol i'w gyhoeddi mewn print gan ei gymorthdalu drwy hysbysebion llywodraeth - os oe'n nhw'n meddwl bod hwnna yn bosibl yn ethegol o safbwynt bywyd cyhoeddus, yna maen nhw'n byw, fel da ni'n deud yn y gogledd, yng ngwlad y gwcw."
Daeth penderfyniad y gweinidog ar ôl iddo gomisiynu arolwg o'r wasg Gymraeg gan Dr Tony Bianchi.
Bydd mwy i'w weld ar Dragon's Eye ar BBC UN Cymru am 10.35pm ddydd Iau.