Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 21 Chwefror 2008, 12:22 GMT

Polisi iaith yn 'ergyd' i bapur

La Nuá

Mae prif weithredwr cwmni papurau newydd wedi dweud mai polisi iaith llywodraeth Gogledd Iwerddon yw un o'r rhesymau am gau papur dyddiol Gwyddeleg.

Eisoes mae staff Lá Nua, gan gynnwys wyth newyddiadurwr, wedi derbyn rhybuddion diswyddo.

Cafodd y papur newydd, y mae Grŵp Andersonstown News yn berchen arno, ei gyhoeddi ers 1984.

Roedd Gweinidog Treftadaeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi cyfeirio at Lá Nua fel enghraifft oedd yn dangos bod modd cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni papurau newydd, Mairtin O'Mulleoir: "Y broblem fwya, ar wahân i ddiffyg ariannu, yw penderfyniad llywodraeth Gogledd Iwerddon.

"Maen nhw wedi gwrthdroi eu polisi. Erbyn hyn, dydyn nhw ddim yn cyhoeddi deunydd yn yr iaith Wyddeleg.

"Mae hon wedi bod yn ergyd i'r papur dyddiol."

Dywedodd fod rhai gweinidogion yn y llywodraeth yn ceisio newid y polisi er mwyn hyrwyddo'r iaith Wyddeleg.

Yn y cyfamser, mae'r papur wedi lansio deiseb ar-lein sy'n gofyn i'r prif gorff ariannu, Foras na Gaeilge, i ailystyried eu penderfyniad.

Os yw hyn yn methu, gallai'r rhifyn ola gael ei gyhoeddi ar Chwefror 29.

"Rydyn ni'n ceisio paratoi cynllun goroesi," meddai'r prif weithredwr.

"Mae angen rhyw £100,000 y flwyddyn."





HEFYD:
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg (29 Medi 04 |  Newyddion )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd