Mae taith gerdded Cymdeithas yr Iaith "o blaid ysgolion pentrefol Gwynedd" wedi dechrau ddydd Llun.
Ym mis Hydref cyhoeddodd Cyngor Gwynedd y gallai 29 ysgol gynradd gau ac wyth ysgol ardal gael eu codi.
Aeth y cerddwyr o Ysgol y Parc, Y Bala, un o'r ysgolion allai gau, i'r capel coffa ar lan Llyn Celyn.
Bu cyfarfod yn y capel i gofio Tryweryn ac i "ymdynghedu i frwydro i beidio â cholli rhagor o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion".
Dywedodd arweinydd y daith, Osian Jones, trefnydd y gymdeithas yn y gogledd: "Byddai cau ysgolion fel y Parc yn golygu dedfryd ohiriedig o farwolaeth ar y gymuned Gymraeg leol.
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG YSGOLION CYNRADD
"Byddai'r gymuned yn heneiddio gan na fyddai rhieni ifainc mor barod i fyw mewn cymuned heb ysgol.
"Collwyd cymuned Gymraeg o ganlyniad i golli Tryweryn, ond fe allen ni golli llawer yn fwy o gymunedau Cymraeg os na fydd gwrthwynebiad cryf i gynllun Cyngor Gwynedd."
Mae'r cyngor wedi dweud fod y newidiadau'n "angenrheidiol" er mwyn "cynnal safon addysg uchel" wrth i nifer disgyblion ostwng.
O dan y cynlluniau fe fydd 48 ysgol ar 85 safle yn lle 106 o ysgolion.