Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 7 Chwefror 2008, 15:22 GMT

Gwefan: Trafod deddf iaith

Hywel Williams AS

Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio er mwyn annog trafod datblygu deddfau yng Nghymru.

Hywel Williams, Aelod Seneddol Caernarfon, sydd wedi sefydlu'r wefan ddwyieithog sy'n debyg i wefan Wikipedia.

Cafodd y wefan ei sefydlu er mwyn trafod yn fwy ddatblygu deddfau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad dderbyn yr hawl i ddeddfu mewn rhai meysydd.

Bydd y fforwm trafod cyntaf yn canolbwyntio ar ddeddf neu ddeddfau iaith.

Torri tir newydd

Dydd Mawrth lansiodd Mr Williams y wefan newydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

"Mae'r adnodd rhyngweithiol yn torri tir newydd fel y gall defnyddwyr gynnig syniadau a rhoi sylwadau am feysydd posib deddfu yn yr iaith Gymraeg.

"Nid yn unig y bydd y wefan yn cynnig syniadau cadarn i ddatblygwyr polisi ar gyfer mesurau a deddfau yn y dyfodol ond bydd yn dangos lle mae pobol yn cytuno ac anghytuno."

Mae nifer o benawdau ar y wefan er mwyn ysgogi trafod, gan gynnwys hawliau ieithyddol, y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol.

Y gobaith yw y bydd pobl yn cynnig syniadau ar gyfer deddfau ac yn trafod syniadau cyfranwyr eraill.

Fe fydd modd cynnig syniadau ar gyfer deddfau yn y Gymraeg neu Saesneg.

'Hwb i'r broses'

"Rydan ni'n gobeithio y bydd wikideddfu.org yn ehangu'r drafodaeth, yn hwb i'r broses ddemocrataidd ac yn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosib gyfrannu," meddai Mr Williams.

Fe fydd iaith yn cael ei thrafod ar y wefan tan ddiwedd Mai 2008.

"Gobeithio y bydd yn helpu sicrhau bod unrhyw ddeddfau newydd yn gwasanaethu pobl Caernarfon - fy etholaeth i - a phobl Cymru'n well," meddai Mr Williams.

Cafodd y wefan ei lansio wedi adroddiad "Creu Cymru Gwirioneddol Ddwyieithog" gafodd ei gomisiynu gan Mr Williams.

Roedd yr adroddiad yn yystyried anghenion siaradwyr Cymraeg o fewn unrhyw ddeddf iaith newydd.





HEFYD:
Mwy o hawliau i'r Gymraeg? (05 Chwef 08 |  Newyddion )
Iaith: 'Dim digon o ddefnyddwyr' (05 Chwef 08 |  Newyddion )
Undeb: 'Dim parch at iaith' (02 Chwef 08 |  Newyddion )
Ffrae cynllunio am ffafrio iaith (24 Ion 08 |  Newyddion )
Help i gynnal busnes yn Gymraeg (21 Ion 08 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Wikideddfu
Cwmni Iaith
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd