Mae mudiadau hawliau sifil wedi beirniadu cynllun Llywodraeth y Cynulliad i wella'r defnydd o wasanaethau cyhoeddus.
Y syniad yw defnyddio un cerdyn ar gyfer nifer o wasanaethau gwahanol ond mae'r mudiad Hawliau Agored, sy'n ymgyrchu dros hawliau sifil, wedi beirniadu'r "cerdyn call".
Ac mae'r mudiad hawliau sifil, NO2ID, wedi dweud eu bod yn poeni y byddai hwn yn gam cynta at gardiau adnabod i Gymru.
Dywedodd Suw Charman o Hawliau Agored nad oedd diben i'r cynllun.
"Dydw i dal ddim yn gwybod beth sy o'i le ar y cardiau presennol," meddai ar raglen CF99 BBC Cymru.
'Troseddwyr'
"Pam bod angen cadw'r holl wybodaeth ar un cerdyn fydd yn cadw cofnod o'r hyn y bydd pobl yn ei 'neud a lle y byddan nhw'n mynd?
"Maen nhw'n trin pobl fel troseddwyr."
Mae'r gweinidog fydd yn gyfrifol am y cerdyn, Andrew Davies, wedi dweud: "Does a wnelo'r cerdyn ddim byd o gwbl â chardiau adnabod, nid dyna'r bwriad o gwbl.
"Y nod yw defnyddio technoleg i wella'r defnydd o wasanaethau fel llyfrgelloedd ac yn y blaen."
Unig bwrpas y cerdyn, meddai, fyddai ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio cardiau adnabod.
Ond dywedodd y byddai mwy o wasanaethau yn cael eu hychwanegu wrth i'r dechnoleg ddatblygu.
Yn ofalus
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Eleanor Burnham, wedi dweud ei bod yn poeni y bydd llawer o wybodaeth bersonol ar y cerdyn.
Roedd angen bod yn ofalus, meddai, o gofio bod adrannau Llywodraeth Prydain wedi colli gwybodaeth am gannoedd o filoedd o bobl.
Dywedodd Leanne Wood, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru, y byddai'n mynd i'r carchar yn lle cario cerdyn adnabod.
Roedd yn croesawu unrhyw gynllun fyddai'n gwella gwasanaethau cyhoeddus, meddai.
Ond roedd angen sicrwydd "na fyddai'r cerdyn yn orfodol ... ac na fyddai'n troi'n gam cynta cyn cerdyn adnabod i Gymru".
"Fe fyddai hynny'n gwneud i mi ofidio'n fawr," meddai.
Fe fydd 'na fwy am hyn ar raglen CF99 ar S4C am 10pm nos Fercher.