Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2007, 16:21 GMT

Sir Gâr: Dwy ysgol arall i gau

Rhieni a disgyblion yn protestio tu allan i Neuadd y Sir

Fe fydd dwy ysgol wledig yn Sir Gaerfyrddin yn cau am byth y flwyddyn nesaf er gwaethaf protestiadau gan rieni a disgyblion.

Roedd gwrthwynebwyr wedi ymgasglu y tu allan i Neuadd y Sir wrth i aelodau o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin gyfarfod i drafod cau Ysgolion Cynradd Llanarthne a Llansadwrn.

Yn ôl rhieni mae'r ysgolion yn chwarae rhan allweddol ym mywyd y pentref ac yn cynnig safonau addysgol da iawn.

Ond mae'r cyngor yn dweud bod y ddwy ysgol yn gweld nifer y disgyblion yn gostwng a dydi cynnal y ddwy ysgol ddim yn ymarferol yn ariannol bellach.

Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun 10 mlynedd y cyngor i foderneiddio addysg.

'Ergyd i'r pentre'

Gall y cynllun arwain at gau 32 o ysgolion ac y bydd adnoddau newydd yn cael eu cynnig ar safleoedd eraill fel rhan o fuddsoddiad gwerth £122 miliwn mewn addysg.

Ond mae Gareth Martin, un o rieni lywodraethwyr Ysgol Llanarthne, yn dweud bod cau'r ysgol yn ergyd arall i'r pentref ar ôl i'r siop olaf gau.

"Yr ysgol ydi calon y gymuned," meddai.

Dywedodd nad oedd y cyngor wedi ystyried barn rhieni a bod plant yn gorfod teithio dros bedair milltir bob dydd ar gyfer derbyn eu haddysg.

"Mae'r ysgol yn Llanarthne yn ysgol gweddol newydd, dydi hi ddim yn adeilad Fictorianaidd ac mae safon y dysgu yn dda iawn," meddai.

Cafodd y protestwyr gefnogaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ond dywedodd aelod o'r bwrdd gweithredol, Ieuan Jones, bod cost addysgu plant mewn rhai ysgolion cynradd bach dair gwaith yn fwy na disgyblion mewn ysgolion mwy o faint.

"Rydym yn ceisio rhoi'r un cyfle addysgol i bob un o'n plant," meddai.





HEFYD:
Cau ysgol fach yn Sir Gâr (09 Ion 07 |  Newyddion )
Mwy o ysgolion gwledig i gau? (19 Ebr 06 |  Newyddion )
Cau ysgolion: Cyhoeddi amserlen (31 Mai 05 |  Newyddion )
Cau ysgolion: Mudiadau'n uno (17 Mai 05 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cymdeithas yr Iaith
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd