Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2007, 15:01 GMT

Papur dyddiol: 'Methu dedlein'

Y Byd

Fe fydd mwy o oedi cyn y bydd papur dyddiol Y Byd yn cael ei gyhoeddi.

Y bwriad oedd cyhoeddi'r rhifyn cyntaf ar Fawrth 3.

Ond fe fyddai rhaid aros tan y bydd yr adolygiad o'r wasg Gymraeg wedi dod i ben, meddai cwmni Dyddiol Cyf.

Byddai rhaid i'r cwmni asesu pa fath o gefnogaeth araiannol fyddai'r fenter yn ei chael oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.

Ar raglen radio'r BBC Taro'r Post gwadodd Ned Thomas, cadeirydd y cwmni, fod yr oedi yn ergyd i obeithion y cynllun.

Dywedodd fod rhaid gohirio gan fod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal arolwg o'r wasg Gymraeg.

Mae disgwyl i'r arolwg ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.

"Wrth i'r broses o adolygu'r wasg Gymraeg barhau, mae Dyddiol Cyf. yn aros yn eiddgar i glywed pa gefnogaeth fydd ar gael maes o law i helpu ariannu'r papur dyddiol.

"Fe hoffwn i ddiolch i holl gefnogwyr y fenter am eu cefnogaeth a'u hamynedd ac rwy'n hyderus y cawn ragor o newyddion positif am ddyfodol y wasg Gymraeg yn gynnar yn 2008."

Yn yr haf dywedodd y cwmni eu bod yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr.

Dywedodd Mr Thomas ar Taro'r Post mai 700 oedd wedi tanysgrifio hyd yma.

Roedd yn "ffyddiog," meddai, y byddai'r papur yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2008.

Cafodd y cynllun ei grybwyll gynta wyth mlynedd yn ôl.

Y nod yw argraffu'r papur bum niwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd pencadlys y cwmni ym Machynlleth a staff llawn amser o 24.





HEFYD:
Papur dyddiol gam yn nes (22 Ion 07 |  Newyddion )
Enwi golygydd Y Byd (28 Tach 06 |  Newyddion )
Swyddi: Y Byd yn ei le? (19 Meh 06 |  Newyddion )
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd (18 Maw 05 |  Newyddion )
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg (29 Medi 04 |  Newyddion )
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn' (22 Ion 04 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Y Byd
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd