Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 23 Hydref 2007, 07:37 GMT 08:37 UK

'Dim lle' i blant Cymraeg

Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las

Yn Abertawe mae rhai'n honni bod ysgol gynradd Gymraeg yn gwrthod darpar-ddisgyblion oherwydd prinder lle.

Oherwydd prinder lle, mae'r galw am sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn y ddinas yn cynyddu.

Ar hyn o bryd mae bron 900 o ddisgyblion mewn dwy ysgol Gymraeg mewn un ardal.

Am y tro cyntaf mae Ysgol Gynradd Gymraeg Lônlas yn Llansamlet wedi dweud eu bod wedi colli 18 disgybl i ysgolion cyfrwng Saesneg ar ddechrau'r tymor.

Mae hyn am nad oes lle yn yr ysgol sydd â 460 o ddisgyblion.

Yn ôl honiadau mae'r ysgol yn gorfod gwrthod ceisiadau wythnosol am ddarpar-ddisgyblion - sy'n golygu bod degau'n colli'r cyfle i gael addysg Gymraeg.

"... ry'n ni'n pryderu am fod mwy o rieni wedi cynnig am le i'w plant na sydd 'na o lefydd yn yr ysgol," meddai Ann Rosser, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol.

'Trasiedi'

"Mae'r prifathro wedi gorfod gwrthod am y tro cyntaf 18 o blant eleni ... ac mae hyn yn drasiedi i addysg Gymraeg.

"Y rhagolygon nawr yw y bydd yn digwydd yn y dyfodol ac y bydd y nifer yn cynyddu.

"Fe fydd 'na fwy o blant yn y dosbarthiadau drwy'r ysgol ac ma'r cynnydd yn mynd i fod yn fwy."

Ysgol Gynradd Tirdeunaw

Yn yr ysgol Gymraeg agosaf, Tirdeunaw, mae mwy na 400 o blant.

Ond yn ôl un rhiant, sy'n cludo ei blant o Dreforys i Lônlas, mae'r ateb yn syml.

"Mi fyddai ysgol newydd yn Nhreforys yn rhoi'r cyfle a'r cynnig i rai gael addysg Gymraeg," meddai Huw Dylan Owen.

"Mae'r galw yno, mae'r galw'n tyfu bob blwyddyn ac mae hynny yn cael ei gydnabod."

Ysgol uwchradd

Roedd Lônlas yn wreiddiol yn ysgol uwchradd oedd i fod i ddal 350 o ddisgyblion.

Ond erbyn diwedd y flwyddyn academaidd mae'r ysgol yn rhagweld y bydd 500 yno.

"Mae'n hen adeilad oedd ar gyfer ysgol uwchradd," meddai Mrs Rosser.

"Dwi ddim yn credu fod plant wedi cael cam 'na ond, yr un pryd, mae angen mwy o le ac adeilad mwy sefydlog ac un sy'n fwy addas i'r oedran."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Abertawe eu bod nhw'n "cydnabod y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal".

Dywedon nhw eu bod wedi darparu 200 o lefydd ychwanegol ers mis Medi 2004 ac y byddai cwblhau ysgol newydd yng ngorllewin y ddinas, Llwynderw, yn golygu mwy o le.

Doedd y cyngor ddim "yn ymwybodol fod addysg Gymraeg wedi cael ei gwrthod i unrhyw blentyn".





HEFYD:
Cynllun i dagio plant amser cinio (20 Ion 05 |  Newyddion )
Agor ysgol gyfun Gymraeg (08 Medi 03 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Abertawe
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd