Mae Menter Iaith newydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer ardal Torfaen, sir Fynwy a Blaenau Gwent.
Cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-Pŵl ddydd Gwener i ddathlu sefydlu'r fenter, ac i drafod y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y rhan hon o'r de ddwyrain.
Wrth groesawu'r fenter, dywedodd dirprwy faer Torfaen, y cynghorydd Aneurin James, bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ar gynnydd, a thynnodd sylw at lwyddiant yr ysgol uwchradd Gymraeg yn Nhorfaen, Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Cafodd drysau'r ysgol ei hagor gynta yn 1988, yr un flwyddyn ag yr ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Chasnewydd.
Mewn ardal yn y de ddwyrain sydd ar y ffin â Lloegr, mae canran uchel o ddisgyblion yr ysgol yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
'Chwarae teg'
Galwodd y cynghorydd Aneurin James ar Fwrdd yr Iaith a Llywodraeth y Cynulliad i roi "chwarae teg" i'r ardal wrth ddosbarthu arian i hyrwyddo'r iaith.
Yn y cyfarfod cyhoeddus, darllenodd ysgrifennydd y fenter, Steffan Webb, lythyr o gefnogaeth gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas.
Mae nifer o Fentrau Iaith ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf. Pwrpas yr ymgyrch yw i annog pobl yn yr ardaloedd hyn i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Bydd yr ymgyrch yn targedu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn eu cael nhw i fentro defnyddio Cymraeg cyn Saesneg wrth ddechrau sgwrs.