Mae bwriad i gau 29 ysgol gynradd yng Ngwynedd a sefydlu wyth ysgol ardal.
Cafodd y cyfanswm ei gyhoeddi mewn adroddiad drafft ddydd Gwener.
Os bydd cynghorwyr o blaid y cynlluniau pellgyrhaeddol, fe fydd 48 ysgol ar 85 safle yn lle'r 106 presennol.
Dywedodd y cyngor fod y newidiadau'n "angenrheidiol" er mwyn "cynnal safon addysg uchel" wrth i nifer disgyblion ostwng a bod addysg yn "brif flaenoriaeth".
Ond mae rhai rhieni wedi dweud bod y cyngor wedi "bradychu" cefn gwlad.
Fe fydd tair ysgol ardal yn cael eu hagor ar safleoedd presennol a 18 ysgol ffederal yn cael eu sefydlu ar 55 safle.
Fe fydd y cynlluniau'n cael eu gweithredu dros gyfnod o chwe blynedd ac fe fydd 'na gyfnod ymgynghori.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Datblygiad Strategol y cyngor, fod angen newidiadau am fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn fawr ers 20 mlynedd.
Prif nod y newidiadau, meddai, oedd gwneud y gorau o'r adnoddau yn lle cadw 2,400 o lefydd gwag ar gost o £850,000 y flwyddyn.
Buddsoddiad
"Yr angen am y gorau i'r plant ydi hyn," meddai.
"Os bydd y cynlluniau'n cael eu derbyn fe fydd £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi wrth ddatblygu wyth ysgol ardal.
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG YSGOLION CYNRADD
"Mi fydd arian pellach, sy'n cael ei wario ar adeiladau anaddas ar hyn o bryd, yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw a gwella'r adeiladau eraill i safon uchel."
Dywedodd arweinydd y cyngor, Richard Parry Hughes, fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi ar ôl 50 o "gyfarfodydd ymgynghorol cychwynnol" â rhieni a llywodraethwyr drwy'r sir.
Byddai cau unrhyw ysgol yn "creu emosiwn," meddai ond roedd yr adroddiad yn cynnig ffordd bositif ymlaen mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yr ardaloedd lle byddai system ffederal i gadw'r ysgol leol i fynd.
"Mae'r adroddiad ymgynghorol wedi edrych ar bob un o'r 106 ysgol yn onest a chlir," meddai.
'Chwyldroadol'
Mae undeb athrawon UCAC wedi dweud bod y newidiadau arfaethedig yn "chwyldroadol".
"Ac mae angen cytundeb efo'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio oherwydd newidiadau mor bellgyrhaeddol," meddai Eryl Owain o'r undeb.
"Fe fydd hyn yn newid patrwm addysg gynradd yn gyfangwbl."
Dywedodd Glyn Owen o Fforwm Llywodraethwyr Ysgolion Llŷn fod y cyngor yn "bradychu ysgolion gwledig".
"Dydi Gwynedd ddim yn gweld dyfodol i ysgolion bach ond, yn fy marn i, mae'r addysg orau mewn ysgol fach.
"Fe ddylai addysg fod yn y gymuned ar gyfer y gymuned."
Wrth sôn am uno ysgolion o dan system ffederal, dywedodd un o lywodraethwyr Ysgol Rhostryfan, Dewi Tomos, fod modd i bedair ysgol ddiflannu mewn un ysgol ffederal.
"Efallai y bydd yr ysgolion yn parhau ar bedwar safle ond fe fydd yr ysgolion yn peidio â bod yn ysgolion unigol.
"Mae hon yn ergyd i'r cymunedau."
Ymddiswyddo
Dydd Llun fe wnaeth y cynghorydd Penri Jones ymddiswyddo o'r rôl fel arweinydd portffolio addysg y cyngor.
Dywedodd ei olynydd, y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards, ei fod yn credu bod yr adroddiad yn cynnig ffordd i "gryfhau'r strwythur addysgol".
"Yn naturiol, mae pobl yn dehongli cau ysgolion fel rhywbeth negyddol ond fe fydd 'na gefnogaeth ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.
Eisoes mae un cynghorydd wedi ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru.
Dywedodd Simon Glyn wrth BBC Cymru y byddai'n annog pobl i roi eu safbwyntiau gwleidyddol o'r neilltu ac uno yn yr ymgyrch yn erbyn cynlluniau'r cyngor.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar Hydref 25.