Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd gyhoeddi dogfen ddadleuol am ddyfodol ysgolion cynradd y sir ddydd Gwener.
Ac mae'n debyg y bydd rhaid i rai ysgolion gau, y bydd rhai'n rhannu penaethiaid a rhai newydd yn cael eu hadeiladu.
Mae'r Cynghorydd Simon Glyn wedi ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ar drothwy'r cyhoeddiad.
Dywedodd wrth BBC Cymru y bydd yn annog pobl i roi eu safbwyntiau gwleidyddol i'r neilltu ac uno yn yr ymgyrch yn erbyn y cynlluniau gan y cyngor.
Fe fydd rhaid i'r ddogfen, sy'n esbonio sut mae'r cyngor am ad-drefnu addysg gynradd, gael sêl bendith cynghorwyr cyn cyfnod o ymgynghori.
Mae'r cyngor wedi dweud yn aml na fyddai'n bosib dilyn y drefn bresennol am fod nifer y disgyblion yn dal i ostwng.
Dywedodd swyddogion addysg Gwynedd fod mwy na 50 o gyfarfodydd ymgynghorol wedi bod yn y sir.
Fe fydd cynllun drafft ar gyfer Gwynedd gyfan yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar Hydref 25.
Yn gynharach yr wythnos hon ymddiswyddodd y cynghorydd â chyfrifoldeb am addysg ar fwrdd Cyngor Gwynedd, Penri Jones.
Mae Fforwm Llywodraethwyr Ysgolion Llŷn yn honni y bydd y ddogfen yn cynnwys argymhelliad i gau tair ysgol yno ac uno chwech arall i greu dwy ysgol ffederal.
Ymddiswyddo
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Mr Glyn ymddiswyddo o weithgor gafodd ei sefydlu gan Grŵp Plaid Cymru i ystyried dyfodol ysgolion bach.
Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar y cyngor.
Mae'r cynghorydd yn honni bod penderfyniadau am ddyfodol addysg gynradd yn cael eu tynnu oddi ar gynghorwyr a bod swyddogion ac uwchgynghorwyr yn gwneud y penderfyniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, arweinydd y cyngor, mai dogfen ymgynghorol sy'n cael ei chyhoeddi ac y bydd yn sail i drafodaethau pellach.
Mae'r hyn sy'n cael ei drafod yng Ngwynedd yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru.
Eisoes mae cynghorwyr Powys wedi cefnogi cynllun dadleuol i gau tair ysgol gynradd yn y sir ac mae trafodaethau am ddyfodol ysgolion eraill wedi eu gohirio.
Mae dyfodol ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych wedi bod cael ei drafod yn yn ddiweddar.