Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 18 Medi 2007, 12:30 GMT 13:30 UK

Technoleg: Defnydd diogel?

Band-eang diwifr (llun llyfrgell) Mae cyngor wedi galw am fwy o ganllawiau oherwydd y defnydd o fandeang diwifr mewn ysgolion.

Wi-fi yw'r dechnoleg ddiweddara o gysylltu'r cyfrifiadur â'r we heb ddefnyddio gwifrau ond mae rhai'n amau a ddylai hi gael ei defnyddio mewn ysgolion.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r cynta yng Nghymru i alw am ganllawiau ar gyfer ysgolion.

Mae rhai gwyddonwyr a rhieni yn amau pa mor ddiogel yw'r system ddiwifr am ei bod yn gollwng ymbelydredd, medden nhw, fel mastiau ffôn.

Penderfynodd y cyngor sir ofyn i fudiadau eu helpu i lunio canllawiau ar sut i ddefnyddio'r dechnoleg mewn ysgolion.

Dim tystiolaeth

Yn ôl yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, does dim tystiolaeth i awgrymu bod y dechnoleg yn effeithio ar iechyd.

Ond dywedodd llefarydd y byddai cynnal arolwg pellach yn synhwyrol.

Mae Ysgol Gyfun Pantycelyn yn Llanymddyfri wedi ymateb i bryderon rieni a pheidio â defnyddio'r dechnoleg.

Y gynathrawes Judith Davies, sydd â merch yn yr ysgol, sy wedi bod yn ymgyrchu o blaid cyfyngu ar y defnydd o wi-fi.

"Roeddwn wedi gobeithio y byddai moratoriwm ond rwy'n falch y bydd côd ymddygiad."

Dywedodd aelod gweithredol dros addysg y sir Ieuan Jones: "Fe fyddwn ni'n cadw llygaid barcud ar y sefyllfa.

"Gallai peryglon cysylltiadau wi-fi fod yn debyg i'r defnydd o ffonau symudol."





HEFYD:
Iaith yn lledu ym myd technoleg (15 Meh 07 |  Newyddion )
Bwlio ar y we: Arestio dau (24 Chwef 07 |  Newyddion )
Bwrdd Iaith yn cefnogi dotCYM (03 Rhag 06 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd