Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 4 Medi 2007, 16:07 GMT 17:07 UK

Ysgol: Protest yn dod i ben

Ysgol Mynyddcerrig

Mae protest pum aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw feddiannu Ysgol Mynyddcerrig ger Pontyberem yn oriau mân bore Mawrth.

Roedd y weithred, meddai'r mudiad, yn rhan o ymgyrch i geisio diogelu'r adeilad ar gyfer y gymuned.

Y pump oedd cadeirydd y mudiad, Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert, Ffred Ffransis, Angharad Clwyd a Siriol Teifi.

Cafodd yr ysgol ei chau ym mis Gorffennaf oherwydd cynlluniau moderneiddio ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Mae'r mudiad wedi ymgyrchu ers sawl blwyddyn o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod cau ysgolion bach yn rhan o strategaeth 10 mlynedd i wario £110 miliwn ar wella adnoddau addysg yn y sir.

Mae nifer o'r ysgolion gwledig yn hen adeiladau a bwriad y cyngor ydi codi adeiladau newydd.

Ond mae'r mudiad wedi dweud mai'r ysgolion yn aml yw unig adnodd nifer o bentrefi gwledig a bod effeithiau cau'n bellgyrhaeddol.

Torrodd y pum aelod i mewn i'r ysgol ddydd Mawrth a newid y cloeon.

Dywedon nhw y bydden nhw'n cyflwyno allwedd yr ysgol i'r gymuned leol.

'Cadw llygad'

Bore Mawrth dywedodd gohebydd Radio Cymru Owain Evans fod yr aelodau wedi meddiannu neuadd yr ysgol a bod dau blisman y tu allan yn "cadw llygad ac yn monitro'r sefyllfa".

Protest Mynyddcerrig

"... mae'r pum aelod yn yr adeilad ar hyn o bryd, yn eistedd yno, yn yfed te ac wedi gosod posteri ar y ffenestri sy'n dweud 'Cadwn ein hysgolion gwledig'," meddai ar y pryd.

"Mae baner ar wal y buarth gyda'r un neges."

Dywedodd Ffred Ffransis, un o'r aelodau yn yr ysgol, eu bod am warchod yr adeilad ar gyfer y pentre.

"Rydan ni wedi clywed si bod y cyngor ar frys i godi'r arian a bod yr ysgol yn mynd i gael ei gwerthu'r wythnos nesaf.

"Mae'r brotest yn ceisio atal gwerthu'r adeilad a sicrhau bod yr adeilad yn adnodd i'r gymuned."

Ond dywedodd y Cynghorydd Ieuan Jones, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar y bwrdd gweithredol, nad oedd hyn yn wir.

"Mae'r cynnig cyntaf ar ddyfodol yr adeiladau yn mynd i'r gymuned leol i'w defnyddio - fel sy wedi digwydd mewn sawl pentref gwledig.

"Ac mae e lan i'r gymuned gynnig syniadau ar gyfer defnyddio'r adeiladau."

Dywedodd y mudiad y dylai adeiladau ysgolion gwledig gael eu rhoi yn nwylo Adran Materion Gwledig Llywodraeth y cynulliad yn lle yn nwylo'r awdurdodau addysg lleol fel y bydden nhw'n adnoddau i'r pentrefi lleol.





HEFYD:
Cau ysgol fach yn Sir Gâr (09 Ion 07 |  Newyddion )
Protest ar y copa yn erbyn cau ysgolion (25 Maw 05 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd