Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mercher, 5 Medi 2007, 06:22 GMT 07:22 UK

Cau ysgolion: 'Angen mesur'

Dosbarth o blant

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu bwriad yn Yr Alban i gyflwyno mesur fydd yn atal ysgolion bach rhag cael eu cau.

Dywedodd Murdo Fraser ASA, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, y byddai'n cyflwyno mesur Seneddol.

Fe fyddai'r mesur, meddai, yn cynnwys rhagdybiaeth gyfreithiol yn erbyn cau ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig.

Ers 2003 mae 60 o ysgolion cefn gwlad Yr Alban wedi cau neu wedi bod mewn perygl o gau.

"Gyda'n gilydd fe allwn ni sicrhau bod ein cymunedau gwledig ni'n sefydlog unwaith eto"
Sandy Longmuir, Rhwydwaith Ysgolion Cefn Gwlad Yr Alban

Dydd Mawrth roedd Aelod Seneddol Yr Alban yn trafod y mesur drafft ag ymgyrchwyr yn Arbirlot, Angus, cyn ei gyhoeddi.

"Mae'n hen bryd i ni weithredu er mwyn diogelu ein hysgolion gwledig.

"Yn rhy aml mae pentrefi wedi colli eu 'calonnau' am fod ysgolion yn cau.

"Mae teuluoedd wedi gadael y pentre yn diodde teithiau hir i ysgolion eraill.

Cronfa

"Dylen ni werthfawrogi ein cymunedau cefn gwlad."

Fe fydd y mesur yn cyfeirio at sefydlu cronfa allai helpu ysgolion sy'n wynebu problemau ariannol.

"Rydyn ni'n falch ein bod ni'n gallu cefnogi mesur Mr Fraser," meddai Sandy Longmuir o Rwydwaith Ysgolion Cefn Gwlad Yr Alban.

"Mae e am gydweithio â Llywodraeth Yr Alban ... gyda'n gilydd fe allwn ni sicrhau bod ein cymunedau gwledig ni'n sefydlog unwaith eto."





HEFYD:
'Dim dewis ond cau rhai ysgolion' (22 Meh 07 |  Newyddion )
Ysgolion bach: Ymgynghori (12 Meh 07 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Ysgol Gymraeg Treganna
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd