Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007, 08:37 GMT 09:37 UK

Y Byd yn closio at gymuned

Y Byd

Bydd y rhai sydd tu ôl i'r fenter i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn symud i'w swyddfa newydd ym Machynlleth erbyn canol haf.

Nod rheolwyr Y Byd yw cyhoeddi rhifyn cyntaf y papur cyn diwedd y flwyddyn.

Nos Iau daeth tua 50 o bobl Dyffryn Dyfi i gwrdd ag uwchswyddogion y papur er mwyn clywed eu cynlluniau.

Roedd y cyfarfod ym Machynlleth a bydd y papur yn agor prif swyddfa ym Mharc Ecolegol y dref a chreu 24 o swyddi.

Dywedodd Rebecca Williams, swyddog datblygu Y Byd: "Menter genedlaethol yw Y Byd, felly mae'n gwneud synnwyr i sefydlu'r pencadlys yn y canolbarth.

"Mae'n adeilad addas iawn ac mae hefyd yn beth da i greu swyddi mewn ardal lle mae eu gwir angen".

Yn ôl Ned Thomas, cadeirydd y cyhoeddwyr, roedd yn bwysig fod y papur yn magu perthynas â'r gymuned leol.

Penodi

Ym mis Tachwedd fe gyhoeddwyd fod dau wedi eu penodi'n olygydd a dirprwy olygydd, Aled Price a Catrin Rogers.

Mae Mr Price, o Gaerdydd yn wreiddiol, yn newyddiadurwr profiadol sydd wedi gweithio am flynyddoedd i BBC Cymru.

Y dirprwy olygydd fydd Catrin Rogers, golygydd papur lleol yn Hounslow yn Llundain.

Bu cais Y Byd am gymhorthdal rhanbarthol yn llwyddiannus.





HEFYD:
Papur dyddiol gam yn nes (22 Ion 07 |  Newyddion )
Swyddi: Y Byd yn ei le? (19 Meh 06 |  Newyddion )
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd (18 Maw 05 |  Newyddion )
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg (29 Medi 04 |  Newyddion )
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn' (22 Ion 04 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Y Byd
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd