Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 26 Chwefror 2007, 20:35 GMT

Ffatri gaws: Colli 44 swydd

Cheese processing generic Bydd 44 o weithwyr ffatri gaws yn Felinfach ger Llambed yn colli eu gwaith am fod y ffatri yn Nyffryn Aeron yn cau.

Mae'r cwmni sy'n berchen y safle wedi dweud y bydd 30 diwrnod o ymgynghori.

Clywodd staff ffatri gaws Aeron Valley eu bod yn colli gwaith ddydd Llun.

Dywedodd y perchnogion Lactalis McLelland mai'r rheswm oedd colledion cynyddol ond y gallai rhai o'r staff gael cynnig gwaith yn yr Alban.

Yn ôl Matt Glover, un o gyfarwyddwyr Lactalis McLelland, roedd y cwmni wedi edrych ar bob opsiwn cyn penderfynu cau.

"Mae hyn yn arbennig o drist oherwydd roedd tîm gwych yn yr hufenfa, sydd wedi gwneud eu gorau glas ers i ni brynu Aeron Valley ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.

Camau cyfreithiol

"Serch hynny, er gwaethaf buddsoddiad yn y ffatri ac ymdrechion arbennig y staff, mae'r colledion wedi parhau i gynyddu."

Dywedodd AC Ceredigion Elin Jones y byddai'r cau yn "effeithio'n andwyol" ar gymuned Felinfach ac y byddai'n codi'r pwnc ar lawr y Senedd ddydd Mawrth.

Collodd 115 eu gwaith pan gaeodd ffatri brosesu caws Dairygold yn Felinfach ym mis Ebrill 2006.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cwmni Dairygold rybudd y gallai Llywodraeth y Cynulliad gymryd camau cyfreithiol er mwyn cael arian cyhoeddus yn ôl oddi wrth y cwmni.

Cafodd y cwmni o Iwerddon £663,528 yn 2002 er mwyn ehangu'r gwaith prosesu.





HEFYD:
Rhybudd am grant o £663,000 (19 Chwef 07 |  Newyddion )
'Oedi' cwmni caws o dan y lach (02 Chwef 07 |  Newyddion )
Ffatri gaws: Camau cyfreithiol? (25 Medi 06 |  Newyddion )
Ffatri gaws: Poeni am daliadau (25 Medi 06 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Lactalis McLelland (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd