Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007, 06:39 GMT 07:39 UK

'Dim angen newid Deddf Iaith'

Arwydd yn gofyn ble mae'r Gymraeg

Dyw mwyafrif pobl Cymru ddim o blaid Deddf Iaith newydd, yn ôl arolwg ar ran BBC Cymru.

Mae clymblaid Llafur a Phlaid Cymru wedi dweud y bydden nhw'n cyflwyno deddf newydd fyddai'n rhoi hawl i bobl dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn ôl arolwg ICM, roedd 24% o'r rhai gafodd eu holi yn credu y dylai pob busnes preifat yng Nghymru gynnig gwasanaeth dwyieithog.

Roedd 10% arall am sicrhau fod y busnesau mwya yn gwneud hynny.

Ond roedd mwyafrif y rhai gafodd eu holi, 63%, yn dweud na ddylai'r ddeddf bresennol newid.

Mae'r ddeddf, ddaeth i rym yn 1993, yn rhoi'r un statws i'r Gymraeg a'r Saesneg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ymgyrchu

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am newid y Ddeddf Iaith.

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Hywel Griffiths, nad oedd y canlyniadau'n syndod am fod cwestiwn yn sôn am "orfodi".

"Pe bai'r cwestiwn yn cael ei aralleirio i gynnwys termau mwy cadarnhaol fel 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog?' neu 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog?' yna rydyn ni'n sicr y byddai mwyafrif pobl Cymru o blaid," meddai.

Cafodd mwy na 1,000 eu holi ar gyfer arolwg ICM dros y ffôn rhwng Mehefin 19 a 21.





HEFYD:
Addysg uwch: Mwy o iaith (29 Meh 07 |  Newyddion )
'Mwy o hawliau i siaradwyr iaith' (28 Meh 07 |  Newyddion )

Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd