Mae cynlluniau Cyngor Gwynedd i ad-drefnu addysg gynradd wedi cael eu gwrthod gan lywodraethwyr ysgolion Pen Llŷn.
Nos Iau penderfynodd cyfarfod Fforwm Llywodraethwyr Ysgolion Llŷn wrthod cwrdd â swyddogion y cyngor sir ar Dachwedd 8.
Yn lle hynny bydd y llywodraethwyr yn cynnal cyfarfodydd â rhieni i gael eu barn nhw am y cynlluniau.
Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi galw ar y fforwm i gydweithio "er mwyn sicrhau dyfodol yr ysgolion".
Ers misoedd mae'r cyngor wedi bod yn ymgynghori â phrifathrawon a llywodraethwyr y sir i drafod sut i ymateb i'r gostyngiad yn nifer y plant.
Gwrthod
Roedd cyfarfod i fod i drafod ysgolion dalgylch Botwnnog ar Dachwedd 8, y trydydd cyfarfod yn yr ardal.
Ond penderfynodd Fforwm y Llywodraethwyr wrthod mynd i'r cyfarfod.
"'Dan ni wedi cael gwybodaeth gan y sir, 'dan ni ddim yn teimlo ei bod yn ddigonol a bod modd symud ymlaen," meddai Glyn Owen ar ran y fforwm.
Honnodd y fforwm fod yr ystadegau y mae'r cyngor wedi eu cyflwyno i gyfiawnhau'r angen i ad-drefnu yn gamarweiniol.
Mae'r cyngor yn dweud fod niferoedd plant wedi gostwng yn sylweddol ers 1996.
Ond yn ôl y fforwm, 1996 oedd y flwyddyn â'r nifer mwya o enedigaethau ers 30 mlynedd a bod y genedigaethau yn uwch yn 2004 nag yr oedden nhw yn 1974.
Dywedodd y cyngor fod ad-drefnu ysgolion yn benderfyniad gan y cyngor llawn a bod rhaid symud ymlaen.
Mae Richard Parry Hughes, arweinydd y cyngor, wedi dweud ei fod wedi "tristáu" oherwydd penderfyniad y fforwm.
"Mae'r llywodraethwyr a'r penaethiaid mewn gwirionedd yn gosod agenda i gau ysgolion gwledig sy'n hollol groes i 'nymuniad i'n bersonol.
"Dwi'n galw arnyn nhw i feddwl eto oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gydweithio.
Straeon Poblogaidd Eraill
"Yr unig ffordd y maen nhw'n mynd i oroesi yn eu cymunedau yn Llŷn ac yng ngweddill Gwynedd ydy cydweithio - fel arall mae ar ben ac maen nhw'n mynd i gau."
Dywedodd fod rhaid edrych ar y sefyllfa o fewn "cyd-destun ariannol".
"Mae pob plentyn yng Ngwynedd yn costio £3,000 yr un i'w haddysgu mewn ysgolion cynradd - dyw hynny ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir."