Mae rhai busnesau eisoes yn elwa ar fannau di-fwg, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.
Fe wnaeth Brian Gibbons ei sylwadau chwe mis cyn i'r gwaharddiad ddod i rym mewn llefydd cyhoeddus caeëdig ar Ebrill 2.
Roedd yn well gan smygwyr a'r rhai nad oedd yn smygu, meddai, fannau di-fwg ac roedden nhw'n treulio mwy o amser mewn llefydd di-fwg fel caffis.
Ond dywedodd corff sy'n cynrychioli landlordiaid yng Nghymru y byddai'r gwaharddiad yn amharu ar ryddid dewis yr unigolyn.
Daw'r gwaharddiad i rym yng Nghymru fis cyn etholiadau'r cynulliad, yr un pryd â'r gwaharddiad yng Ngogledd Iwerddon.
Mae gwaharddiad eisoes yn Yr Alban a does dim disgwyl gwaharddiad tan haf 2007 yn Lloegr.
'Manteision'
Fe fydd y gwaharddiad yn golygu na fydd modd ysmygu yn y gwaith, mewn tafarndai, clybiau a bwytai ond bydd eithriadau, er enghraifft ystafelloedd gwestai.
"Mae mwy a mwy o fusnesau yn cysylltu â'n gwefan ni ac yn sylweddoli fod mannau di-fwg yn golygu manteision ariannol," meddai Dr Gibbons.
Un enghraifft y mae'n cyfeirio ati ydi cadwyn caffis Starvin Jacks yn Abertawe.
Dywedodd fod cynnydd o 80% mewn gwerthiant ers i'r gadwyn fynd yn ddi-fwg a bod derbyniadau Cafe Mao yng Nghaerdydd wedi codi 15% ers cychwyn gwahardd gwirfoddol ym Mai.
Mae Aneurin Jones, Llywydd Cymdeithas y Tafarnwyr yng Nghymru, wedi dweud fod y gwaharddiad yn amharu ar ryddid dewis yr unigolyn a bod hyn "yn gwbl anghywir".
Dywedodd Mr Jones, rheolwr Gwesty Dolbadarn yn Llanberis, fod bod angen mannau penodol ar gyfer smygwyr.
"Mae ganddon ni waharddiad yn ystafell fwyta'r gwesty, un llym oedd mewn grym cyn unrhyw waharddiad swyddogol.
"Gall pobl smygu yn y bar cyhoeddus ond dydan ni ddim yn hybu hynny yn y lolfa."
Mae disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad anfon deunydd i fusnesau yn Nhachwedd fel bod modd iddyn nhw baratoi ar gyfer y gwaharddiad.
Fe fydd y deunydd yn cynnwys arwyddion dwyieithog.
Mae 'na waharddiad ar smygu yng Ngweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal, Malta, Norwy, Sbaen a Sweden.