Mae penaethiaid iechyd yn ne Cymru wedi cyhuddo cynghorau lleol o fethu â threfnu gofal tymor hir i gleifion, a bod yr oedi'n arwain at ganslo llawdriniaethau.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a'r Fro y byddai 190 o gleifion angen gofal cymdeithasol ym Medi.
"Claddu eu pennau yn y tywod" mewn perthynas â'r sefyllfa y mae dau awdurdod lleol, yn ôl cadeirydd yr ymddiriedolaeth Simon Jones.
Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn gyfrifol am ddim ond canran o'r cleifion hynny, ac mae Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn gwadu'r honiad.
Mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn nad ydi'r honiad y bydd 190 o gleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty'n hwy nag sydd angen y mis hwn oherwydd diffyg trefniadau gofal wedi ei wirio'n annibynnol.
"Ni fedrwn yrru pobl i lety nad sy'n bodoli"
Dywedodd Mr Jones: "Unwaith eto rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl yn ein gwelyau ysbyty nad sydd angen bod yna. Fe fydd mwy o bobl oedrannus yn dod yn fwy bregus a dibynnol.
"Fe fydd mwy o bobl mewn unedau ysbyty sy'n anaddas i'w hanghenion. Fe fydd llawdriniaethau mwy o bobl yn cael eu canslo o ganlyniad."
Ychwanegodd: "Hyn oll oherwydd diffyg gweithredu llwyr, mae'n ymddangos, ar ran awdurdodau lleol Caerdydd a'r Fro i wneud yr hyn maen nhw i fod i'w wneud."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod datganiad yr ymddiriedolaeth yn "annoeth" ac yn peri dryswch mewn perthynas â "sefyllfa gymhleth ac emosiynol".
"Rydym yn siomedig fod Ymddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a'r Fro'n parhau i'n beio'n annheg am y broblem barhaus o ran rhyddhau cleifion," meddai.
Pwysau ariannol
Dywedodd y cyngor mai diffyg llety addas oedd y prif reswm dros ohirio rhyddhau cleifion.
"Ni fedrwn yrru pobl i lety nad sy'n bodoli," ychwanegodd y llefarydd.
Gwadodd cyfarwyddwr gwasanaethau cymunedol Cyngor Bro Morgannwg James Cawlen fod 'na "ddiffyg gweithredu" ac mai'r unig ffordd i ddatrys y sefyllfa oedd "cydweithio rhwng cynghorau, mudiadau ac asiantaethau ar draws Caerdydd a'r Fro".
Dywedodd y cyngor ei fod yn benderfynol o wella'r gefnogaeth i "bobl fregus" ac fe alwodd ar Lywodraeth y Cynulliad i "edrych o ddifri" ar yr arian sy'n cael ei roi i gynghorau ar gyfer trefniadau gofal.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y cynulliad ei fod yn ymwybodol o bryderon yr ymddiriedolaeth a bod trafodaethau'n cael eu cynnal.
Ychwanegodd: "Bob blwyddyn ers 2004-05 mae Llywodraeth y Cynulliad rhoi £20 miliwn ychwanegol er mwyn gwella'r gallu i ofalu am bobl yn eu cartrefi ac yn y gymuned.
"Ar ben hynny mae cyllideb y cynulliad ar gyfer 2006-07 yn rhoi £45 miliwn yn fwy i awdurdodau lleol at leihau'r pwysau ariannol mewn ystod o feysydd gofal cymdeithasol i oedolion."