Wrth i gynghorwyr drafod dyfodol ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin bu protest fore Mercher y tu allan i'r pencadlys.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir i'r bwrdd gweithredol gymeradwyo cau Ysgol Gynradd Mynyddcerrig ger Cydweli.
Dadlwythodd aelodau Cymdeithas yr Iaith ddwy dunnell o gerrig mân wrth brif fynedfa cerbydau adeilad y cyngor sir.
Roedd wyth aelod y tu allan i'r adeilad a'r gwedddill y tu mewn wrth i'r cynghorwyr drafod cyn y penderfyniad terfynol.
"Yr hyn y mae swyddogion yn ei wneud yw gweithredu strategaeth y sir ..."
Mae Cymdeithas yr Iaith a rhieni lleol wedi beirniadu dulliau ymgynghori swyddogion y cyngor.
Y cyngor llawn nid dim ond aelodau bwrdd gweithredol ddylai benderfynu tynged yr ysgol, medden nhw.
Ond dywedodd y cyngor ei fod wedi ystyried pryderon yr ymgyrchwyr yn fanwl.
Bore Mercher gyrrodd Ffred Ffransis, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dryc i gyfeiriad adeilad y cyngor sir.
Cafodd cerrig mân eu dadlwytho ond erbyn hyn maen nhw wedi cael eu clirio.
'Cynllun busnes'
"Cyn bod unrhyw awdurdod lleol yn gallu rhoi hysbysiad fod ysgol i gau, maen nhw i fod i ymchwilio i'r opsiynau eraill yn drwyadl," meddai Sioned Elin, cadeirydd y mudiad yn y sir.
Un opsiwn, meddai, fyddai ffedereiddio ysgol Mynydd Cerrig gydag ysgol gyfagos".
Dywedodd nad cyfrifoldeb llywodraethwyr gwirfoddol a rhieni oedd ffurfio "cynllun busnes manwl" ond mai cyfrifoldeb y cyngor oedd "gwneud ymchwil manwl i opsiynau eraill".
Mae'r mudiad, meddai, am alw ar bwyllgor craffu addysg y sir i "ymyrryd ym mhenderfyniad y bwrdd gweithredol".
Ond dywedodd y Cynghorydd Ieuan Jones, sy'n gyfrifol am addysg ar y bwrdd gweithredol, fod swyddogion wedi ateb cwestiynau'r rhieni a gwneud eu gwaith yn drylwyr.
"Cyn bod awdurdod yn rhoi hysbysiad fod ysgol i gau, maen nhw i fod i ymchwilio i'r opsiynau eraill yn drwyadl"
"Yr hyn y mae swyddogion yn ei wneud yw gweithredu strategaeth y sir oedd wedi cael ei phenderfynu dair blynedd yn ôl.
"Os bydd gyda ni ysgol o dros 200 o blant - mae'r gwariant ar bob plentyn lot yn llai na'r gwariant ar lond dwrn o blant mewn ysgol fach yn y wlad."
Os bydd y gwrthwynebu'n parhau, gweinidog addysg y cynulliad Jane Davidson fydd â'r gair ola ynglŷn â thynged yr ysgol.
Yng Ngorffennaf protestiodd cynrychiolwyr 12 o ysgolion y sir, Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru yn erbyn cynllun addysg y sir.