Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sul, 20 Awst 2006, 09:29 GMT 10:29 UK

Breuddwyd Cymraes i fod yn Maria

Connie Fisher

Nadolig 2005 a Connie Fisher yn gwneud ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf ar lwyfan yn Sir Benfro mewn cynhyrchiad o Aladdin.

Erbyn hyn mae hi'n gobeithio y bydd gwylwyr teledu yn ei chynorthwyo i ennill y brif ran yn fersiwn Andrew Lloyd Webber o The Sound of Music.

Mae'r ferch 23 oed o Sir Benfro yn un o naw sydd ar ôl yn y gyfres talent ar BBC Un, How Do You Solve a Problem Like Maria?

"Dwi wrth fy modd gyda hyn," meddai'r ferch a fagwyd gan ei rhieni a'i nain a'i thaid ar fferm ym mhentref Cas-lai.

Mae'r ymgeiswyr yn cystadlu i ennill pleidlais y cyhoedd i geisio cael gyrfa yn y West End.

Eisteddfodau

Pan ymddangosodd Connie ar y rhaglen gyntaf cafodd y beirniad eu syfrdanu gan ei pherfformiad o Natural Woman.

Roedd ei pherfformiad o gân Lulu, Shout, yn ddigon i sicrhau ei lle yn y gyfres am wythnos arall wrth i'r naw fynd yn wyth.

Graham Norton

"Fe aeth y rhaglen gyntaf yn dda ac roeddwn yn falch iawn o gefnogaeth y cyhoedd," meddai'r ferch sydd wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfodau.

"Dwi'n gobeithio cyrraedd y rownd derfynol gan fy mod yn credu bod y rhan yma yn berffaith i mi a dwi'n gobeithio bod y gwylwyr yn gweld y byddaf yn gallu bod yn Maria arbennig."

Wedi canu yn yr ysgol ac ar lwyfannau fe gychwynnodd actio pan ymunodd â theatr ieuenctid Sir Benfro yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau.

Perfformiad y cwmni o Aladdin dros y Nadolig y llynedd sicrhaodd y siec gynta i Connie.

"Dwi wedi ceisio mynd i mewn i'r byd yma ers sbel.

"Dwi wedi cael clyweliadau ond heb gael unrhyw ran ond dyna natur y busnes."

Enillodd radd dosbarth cyntaf o Academi Mountview, Llundain, a dywedodd bod ganddi, wedi'r hyfforddiant hwnnw, stamina am chwe mis o berfformio yn y West End.

Swreal

"Dwi wedi gweithio'n galed am hyn ac yn barod am yr her," ychwanegodd.

Ers i'r gyfres ddechrau mae hi wedi bod yn byw gyda chystadleuwyr eraill mewn un tŷ mawr.

Julie Andrews

"Mae pawb yn dod ymlaen yn dda ond mae'n od peidio bod mewn cysylltiad â'r byd tu allan - dydan ni ddim yn cael darllen papurau newydd.

"Mae'n rhyfedd hefyd ein bod yn siarad gydag Andrew Lloyd Webber a David Ian yn ddyddiol ac yn eu galw wrth eu henwau cyntaf.

"Mae'n swreal iawn."

Dywedodd ei bod wedi siarad gyda rhai o'i chyn athrawon a'i bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd iddi.

"Mae'n wych i wybod am hyn a dwi'n gobeithio gallu chwifio'r faner ar ran Cymru."





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
How Do You Solve A Problem Like Maria? (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd