Cafodd un o brif ffyrdd Powys ei gau am rai oriau ar ôl i ambiwlans fynd ar dân.
Dywed gwasanaeth tân canolbarth a gorllewin Cymru bod wyth potel nwy yn yr ambiwlans ac mae ambell un wedi ffrwydro.
Fe wnaeth yr heddlu gau'r A483 rhwng Arddlîn a'r Trallwng.
Does neb wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad ddydd Sul.
Roedd poteli nwy Entonox yn y cerbyd ac mae'r gwasanaeth tân yn aros i'r poteli eraill ffrwydro cyn ceisio diffodd y fflamau.
Cafodd y ffordd ei hail agor tua 1400.