Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 23 Mai 2006, 14:18 GMT 15:18 UK

Y Brawd Mawr: Dim negeseuon Cymraeg

Imogen Thomas a Glyn Wise

Mae negeseuon Cymraeg sy'n trafod rhaglen Big Brother wedi cael eu tynnu o'r safle gwe swyddogol.

Ers i ddau Gymro Cymraeg - Glyn Wise o Flaenau Ffestiniog ac Imogen Thomas o Lanelli - fynd i mewn i dŷ Big Brother nos Iau diwetha, mae nifer o wylwyr wedi sgyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg ar wefan C4.

Ond ddydd Mawrth fe gafodd yr holl negeseuon Cymraeg eu tynnu o'r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y sianel fod canllawiau'r fforwm yn dweud yn glir mai negeseuon Saesneg yn unig sy'n cael ymddangos am fod angen monitro cynnwys y sgyrsiau.

"Fe allai negeseuon gael eu symud (o'r fforwm) os ydyn nhw'n cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd bod angen cadw golwg ar natur pob neges, a'i fod ond yn bosib gwneud hynny yn Saesneg.

Maen tramgwydd

Dyma'r eildro ers cychwyn y gyfres nos Iau diwetha i'r Gymraeg fod yn faen tramgwydd i gynhyrchwyr y rhaglen.

Er taw dyma seithfed gyfres y rhaglen realaeth, eleni yw'r tro cynta i siaradwyr Cymraeg gael eu dewis i gymryd rhan ynddi.

Cwta 24 awr wedi iddo fynd i mewn i dŷ Big Brother cafodd Glyn Wise, disgybl chweched dosbarth 18 oed, gerydd oddi wrth lais y Brawd Mawr am siarad gyda Imogen Thomas, 23, yn ei famiaith.

Mae'r ddau ymhlith yr 14 sy'n cystadlu am wobr o £100,000 ar ddiwedd y sioe deledu sy'n parhau am dri mis.

Roedd cystadleuwyr eraill "yn meddwl eu bod yn siarad mewn côd".

Gwadodd llefarydd ar ran y rhaglen fod y Gymraeg yn cael ei gwahardd, gan ddweud fod pobl y tŷ "yn rhydd i siarad unrhyw iaith sefydledig o'u dewis" cyn belled â'u bod yn glynu at reolau'r gystadleuaeth.

Cwynodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth C4, S4C a'r corff sy'n rheoli'r diwydiant telathrebu Ofcom gan ddweud mai "nonsens llwyr oedd gwahodd dau Gymro Cymraeg naturiol i gymryd rhan ac yna eu gwahardd rhag siarad eu hiaith gyntaf".

Beth yw eich barn chi am benderfyniad y cynhyrchwyr i dynnu'r negeseuon oddi ar gwefan Big Brother? Anfonwch eich sylwadau drwy lenwi'r ffurflen.

Enw


Eich cyfeiriad e bost


Tref a Sir


Eich sylwadau


Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.

Telerau ac amodau (Saesneg)





HEFYD:
Y Brawd Mawr a'r iaith (19 Mai 06 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Big Brother (Saesneg)
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd