Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Sadwrn, 29 Ebrill 2006, 16:25 GMT 17:25 UK

Protest tu allan i ysgol dan fygythiad

Protest Ysgol Mynyddcerrig

Mae rhieni a phlant yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn protestio y tu allan i ysgol allai gau erbyn diwedd y flwyddyn.

Maen nhw'n gwrthwynebu cynlluniau ad-drefnu addysg y cyngor, sy'n dweud fod rhaid ymdrin ā'r 5,000 o lefydd gwag yn ysgolion cynradd y sir.

Cafodd y brotest, oedd wedi ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Fforwm Ysgolion Sir Gār, ei chynnal y tu allan i Ysgol Mynyddcerrig brynhawn Sadwrn.

Yn gynharach y mis hwn cefnogodd uwch gynghorwyr gynlluniau i gau'r ysgol, sy'n cynnwys 13 o ddisgyblion, yng Nghwm Gwendraeth. Wrth ymateb i'r brotest dywedodd y cyngor fod ymgynghori i ddechrau ar ddyfodol yr ysgol.

"Does dim ymgynghori yn digwydd tan y munud olaf ac mae'r cyngor wedi gwneud eu barn yn amlwg o'r cychwyn"
Angharad Clwyd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin raglen 10 mlynedd sy'n anelu at leihau lleoedd gwag a gwella adeiladau ysgolion a gallai hyn olygu y bydd hyd at 32 o ysgolion yn cau gydag ysgolion ardal yn cael eu creu yn eu lle.

Mae cynghorau eraill Cymru hefyd yn adolygu eu hysgolion o ganlyniad i leoedd gwag.

Ymysg y siaradwyr fu'n annerch yn y brotest ddydd Sadwrn roedd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Fforwm Ysgolion Sir Gār.

Dywedodd Angharad Clwyd, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Sir Gār a Cheredigion, cyn y brotest mai'r bwriad oedd dangos i'r cyngor "fod pobl yn barod i sefyll lan yn erbyn hyn (eu cynlluniau) ac nad ydyn nhw am gymryd yr hyn maen nhw'n ceisio ei wthio ar y cymunedau Cymraeg".

'Annemocrataidd'

"Does dim ymgynghori yn digwydd tan y munud olaf ac mae'r cyngor wedi gwneud eu barn yn amlwg o'r cychwyn a'r unig opsiwn maen nhw'n ei gynnig yw cau tra gellid bod wedi cynnig ffederaleiddio," meddai.

Dywedodd Ms Clwyd ei bod yn cydnabod fod diffyg disgyblion yn broblem ond honnodd fod Cyngor Sir Gār wedi gwneud penderfyniad "annemocrataidd" heb wrando ar farn y bobl.

"Bydd rhieni, staff a llywodraethwyr yn cael cais i fynegi eu safbwyntiau fel rhan o'r broses ymgynghori"
Cyngor Sir Gaerfyrddin

"Mae cant a mil o wahanol opsiynau y gellir eu cynnig....mae ysgol yn adeilad i gymuned gyfan a gellir ei ddefnyddio hefyd er enghraifft i gynnig gwersi gyda'r hwyr," meddai.

"Ond dyw'r cyngor ddim yn fodlon edrych ar ffyrdd creadigol (o ymdrin ā'r broblem)."

Wrth ymateb i'r brotest dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin mewn datganiad fod "ymgynghori i ddechrau ar ddyfodol ysgol yng Nghwm Gwendraeth sydd wedi profi nifer o broblemau".

'Proses ymgynghori'

Dywedodd fod mesurau arbennig wedi dod yn weithredol yr ysgol yn ddiweddar, bod y pennaeth wedi ymddeol ac na ellir cynnal y gefnogaeth helaeth sy'n cael ei gynnig i'r ysgol o fewn cyllideb yr ysgol.

Ysgol Mynyddcerrig Hefyd dywedodd fod nifer y disgyblion wedi gostwng i 13 ac na all yr ysgol gynnal mwy nac un athro o fis Medi ymlaen.

"Mae bwrdd gweithredol y cyngor sir nawr wedi cymeradwyo cynlluniau i gynnal ymgynghoriad dros ddyfodol yr ysgol a'r ddarpariaeth i ddisgyblion," meddai'r datganiad.

"Y cynnig yw i gau yr ysgol ac i'r disgyblion sy'n weddill i gael eu hanfon i ysgolion lleol eraill.

"Bydd rhieni, staff a llywodraethwyr yn cael cais i fynegi eu safbwyntiau fel rhan o'r broses ymgynghori."

Dywedodd cyfarwyddwr addysg y sir, Vernon Morgan, y bydd yr holl safbwyntiau'n cael eu hystyried cyn y bydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud.





HEFYD:
Gwrthod cynlluniau ad-drefnu ysgolion (27 Ebr 06 |  Newyddion )
Pryder am addysg Gymraeg (26 Ebr 06 |  Newyddion )
Mwy o ysgolion gwledig i gau? (19 Ebr 06 |  Newyddion )
'Gwendidau' ysgol dan fygythiad (05 Gorff 05 |  Newyddion )
Protest ar y copa yn erbyn cau ysgolion (25 Maw 05 |  Newyddion )

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gār
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd