Mae Abertawe wedi penderfynu y bydd yn parhau gyda chynlluniau i wneud cais am un o gasinos newydd Prydain.
Bydd y cyngor yn trafod cyflwyno cais o flaen panel ymgynghorol a fydd yn argymell ardaloedd ar gyfer un casino rhanbarthol, wyth casino mawr ac wyth o gasinos llai ym Mhrydain
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Abertawe Gerald Clement y gallai casino arwain at fuddiannau economaidd "enfawr".
Ond mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn poeni ynghylch effeithiau posib y datblygiad ar deuluoedd.
O dan y ddeddf Hapchwarae dim ond un casino rhanbarthol fydd yn cael ei godi ym Mhrydain ynghyd ag 16 o rai llai.
Amrywiol
Mae awdurdodau lleol trwy Brydain yn gwneud ceisiadau fydd yn cael eu hystyried gan y panel cyn y bydd yn cyflwyno argymhellion i lywodraeth San Steffan.
"Rwy'n meddwl y bydd yn hwb economaidd enfawr i'r ddinas, mae'n cael ei gydnabod yn gyffredinol bod Abertawe yn adfywio ei hun," meddai Mr Clement.
"Mae diwydiannau traddodiadol wedi cael eu dydd. Mae'n rhaid bod yn fwy amrywiol ac edrych ar beth sy'n gweithio sydd yn arwain ar ffyniant yn Abertawe."
Dywedodd ei fod yn "derbyn y bydd hwn yn fater moesol i rai pobl" a bod "hynny'n gwbwl dderbyniol".
"Rwy'n meddwl y bydd yn hybu diwydiant twristiaeth Abertawe a dyna rydyn ni'n mynd i ddibynnu fwyfwy arno," medai Mr Clement, sy'n cynrychioli De Cilâ.
"Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn hybu gamblo, mae'n cynnig cyfleuster i bobl sy'n gamblo yn barod."
Gwaith y panel fydd argymell ardaloedd ar gyfer y casinos newydd ond nid y lleoliadau penodol. Yr awdurdodau lleol fydd yn penderfynu'r lleoliadau.
Pryderon
Mae'r Uwch-gapten Peter Moran, comander rhanbarthol Byddin yr Iachawdwriaeth yn ne a chanolbarth Cymru, am dynnu materion eraill i mewn i'r drafodaeth heblaw am greu swyddi.
"Rydyn ni wastad yn cael y dadleuon o blaid heb restru'r dadleuon yn erbyn, neu does neb yn gwrando ar rheiny, " meddai.
"Mae gyda ni bryderon ynghylch hyn o fewn Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae'r mater yn aml yn cael ei ddarlunio (fel petai) popeth yn wych: nifer y swyddi ac adfywio.
"Un o'n pryderon yw ymdrin â'r effeithiau ar deuluoedd," ychwanegodd.
Dywedodd y cyngor nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ar faint y casino yn y cais.
Mae Cyngor Sir Caerdydd eisoes wedi gwneud cais swyddogol i ddod â chasino rhanbarthol i'r brifddinas fel rhan o ddatblygiad gwerth £700m sy'n cynnwys pentre chwaraeon.