Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Iau, 23 Chwefror 2006, 08:09 GMT

Plaid yn lansio logo sain

Logo Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn dechrau ar y broses o ail-frandio gan gyflwyno logo newydd bydd modd ei glywed yn unig.

Fe fydd y logo sonig newydd, sydd wedi cael ei greu gan y cyfansoddwr John Rea, yn cael ei ddefnyddio i groesawu ymwelwyr i wefan y blaid.

Yn ôl y blaid nhw yw'r blaid gyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio'r math yma o logo sy'n cael ei lansio ddydd Gwener yn eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerfyrddin.

Mae'r blaid hefyd yn gobeithio y gall y logo gael ei ddefnyddio'n fuan fel tôn ar y ffôn symudol.

Dywedodd yr AC Helen Mary Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r blaid, mai pwrpas y logo newydd yw gwella'r ffordd y mae'r blaid yn cyfathrebu gydag etholwyr a bod ar flaen y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru.

"Mae Plaid Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cyfathrebu," meddai.

"Y Triban (y logo gweledol) oedd y darlun gweledol i unrhyw blaid wleidyddol.

"Fe fydd y logo sonig yn croesawu defnyddwyr i'r wefan ac fe fyddwn yn edrych ar y posibilrwydd o'i ddefnyddio fel tôn ar gyfer y ffôn.

"Mae'r logo yn rhan allweddol o'r broses o ail-frandio," ychwanegodd.

Y cerddor a'r cyfansoddwr o Gaerdydd, John Rea, sy'n gyfrifol am gyfansoddi'r logo newydd.

Mae Mr Rea wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu ac wedi derbyn comisiwn arbennig i gyfansoddi ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Plaid Cymru
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd