Help?
Sut ydw i'n dechrau defnyddio RSS?
Sut ydw i'n cael Darllenydd Newyddion?
Defnyddio allbyrth RSS BBC Newyddion ar eich safle
Beth yw RSS?
Mewn byd sy'n orlawn o filiynau o dudalennau gwe, gall fod yn anodd gael y wybodaeth ddiweddaraf rydych chi ei hangen.
Oni fyddai'n well bod y newyddion yn dod yn syth atoch chi, yn lle eich bod yn gorfod clicio o safle i safle? Wel, mae'n bosib, diolch i'r gwasanaeth RSS.
Ystyr RSS yw 'Really Simple Syndication.' Yn syml, mae'n golygu y gallwch chi adnabod y cynnwys sy'n apelio atoch a'i dderbyn yn uniongyrchol.
Mae'n osoi'r her o geisio cadw i fyny, drwy ddangos y wybodaeth ddiweddara rydych chi â diddordeb ynddi.
Nid yw pob gwefan yn darparu RSS ar hyn o bryd, ond mae'n fwy poblogaidd ac mae nifer o safleoedd eraill yn ei ddarparu fel The Guardian, New York Times a CNN.
Yn ôl i'r brig
Sut ydw i'n dechrau defnyddio RSS?
Yn gyffredinol, y peth cyntaf sydd ei angen yw'r hyn a elwir yn ddarllenydd newyddion.
Mae nifer o fersiynau gwahanol, rhai y gellir eu cyrraedd drwy ddefnyddio porwr, a rhai'n rhaglenni y gellir eu dadlwytho.
A'r cyfan yn golygu y gallwch chi arddangos a thanysgrifio i'r RSS yr ydych ei angen.
Ar ôl dewis darllenydd newyddion, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw penderfynu pa gynnwys yr ydych chi ei angen.
Er enghraifft, os yw Newyddion Adloniant y BBC yn apelio, ewch i'r adran Adloniant a sylwi ar fotwm oren RSS ar yr ochr chwith.
Os cliciwch ar y botwm, gallwch danysgrifio mewn sawl ffordd, naill ai drwy lusgo URL yr RSS i mewn i'ch darllenydd newyddion neu drwy dorri a chopïo yr URL i mewn i borth newydd yn eich darllenydd newyddion.
Gall rhai porwyr, gan gynnwys Firefox, Opera a Safari, dderbyn yr RSS yn uniongyrchol. Am fwy o fanylion am y rhain, gweler eu gwefannau.
Yn ôl i'r brig
Sut ydw i'n cael Darllenydd Newyddion?
Mae nifer o ddarllenyddion newyddion ar gael a fersiynau newydd yn ymddangos drwy'r amser.
Dibynnu y mae darllenyddion newyddion ar systemau gwahanol, felly bydd angen i chi ystyried hyn wrth ddewis.
Yn ôl i'r brig
Defnyddio allbyrth RSS BBC Newyddion ar eich safle
Rydym yn hybu'r defnydd o allborth RSS BBC Newyddion fel rhan o wefan, yn amodol ar ein
CPS:LINK ID="4697167"> Telerau ac Amodau
Serch hynny, mae angen i'r fformat cywir a chydnabyddiaeth gael eu defnyddio pan fo cynnwys Newyddion yn ymddangos.
Dylai'r gydnabyddiaeth ddarllen "BBC Newyddion" neu "Gan BBC Newyddion" fel y bo'r angen. Ni chewch ddefnyddio unrhyw logo BBC neu unrhyw nod masnach BBC.
Cadwn yr hawl i atal dosbarthiad cynnwys BBC Newyddion.
Os gwelwch yn dda, darllenwch ein Telerau ac Amodau am fwy o fanylion.
Nid yw'r BBC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ei allbyrth RSS.
Gweler y Telerau ac Amodauam fanylion llawn.
Yn ôl i'r brig