Skip to main content
BBC CYMRU'R BYD / NEWYDDION
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd
Newyddion
Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2006, 07:30 GMT

Catalonia: Hawl i arfer enw gwefan

Senedd Catalonia

O Ionawr ymlaen mae Catalonia'n cael defnyddio'r llythrennau .cat ar wefannau'r wlad honno.

Penderfynodd yr asiantaeth ICANN hyn yn achos gwefannau yng Nghatalonia a'r rhai sy'n ymwneud ag iaith a diwylliant y wlad.

Mae'n debyg na wrthwynebodd Llywodraeth Sbaen y cais.

Yn 1998 penderfynodd Llywodraeth yr Unol Daleithiau mai'r asiantaeth ddylai oruchwylio polisiau gwe.

Bu corff o'r enw PuntCAT, oedd yn cynnwys 98 o fudiadau o blaid yr iaith Gatalaneg a'r diwylliant, yn ymgyrchu am y llythrennau .cat.

Uno siaradwyr

Ymhlith y mudiadau roedd cymdeithasau awduron a golygyddion, cymdeithasau proffesiynol a thechnolegol, ysgolion a chwmniau.

Dywedodd yr ymgyrchwyr y byddai'r llythrennau .cat yn uno siaradwyr yr iaith yng Nghatalonia, yr Ynysoedd Balearaidd, Valencia a rhannau o Aragon.

Nid yn unig mae'r Gatalaneg yn iaith swyddogol yng Nghatalonia - mae'n iaith swyddogol yn Andorra ac yn cael ei siarad yn Perpignan ac Alguer yn Sardinia.

Yn Nhachwedd cytunodd Senedd Sbaen ag argymhellion cynllun i roi mwy o ryddid i Gatalonia.

Cynnig y mae'r argymhellion y bydd Catalonia'n cael ei galw'n genedl ac y bydd ganddi hawl i reoli trethi a newid deddfau.

Bydd rhaid i'r cynllun gael ei addasu i gydymffurfio â chyfansoddiad Sbaen ar ôl y darlleniad cyntaf a basiwyd o 197 pleidlais i 146.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Llywodraeth Sbaen
Llywodraeth Catalonia
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Newyddion
Yn ôl i'r brig ^^ | Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd