Mae'r actor Paul Newman a'i wraig Joanne Woodward wedi ymweld â Chymru i ddathlu priodas eu merch â syrffiwr o Fro Gŵyr.
Treuliodd y pâr dridiau yn aros yng ngwesty Fairyhill, a chawsant y cyfle i gyfarfod rhieni Gary Irving, o Rosili, a briododd eu merch yng Nghaliffornia wythnos ddiwethaf.
Daeth y pâr priod newydd i Gymru i fendithio eu priodas.
Aeth Mr Irving i fyw i Galiffornia rai blynyddoedd yn ôl, ac yno fe gyfarfu â Nell Newman pan werthodd fwrdd syrffio iddi.
Dywedodd mam a llys-dad Mr Irving, Sue a Stuart Proctor, nad oedden nhw yn medru credu eu bod yn eistedd nesa at Paul Newman.
Mae Nell Newman yn rhedeg cwmni bwyd ei thad, Newman's Own Organics.
Hedfanodd y Newmans mewn awyren breifat i Gymru ar ddydd Mawrth, gan adael ar ddydd Iau.
Dywedodd Mr Proctor wrth BBC Cymru: "'Rydym wedi cyfarfod y chwedl - roedd yn un o'r bechgyn."
"Mae Gary yn ei alw'n 'Cool Dude,'" meddai Mrs Proctor.
Maent wedi eu gwahodd i aros gyda'r Newmans yn Efrog Newydd, ac mae'r Proctors yn disgwyl i'w perthnasau newydd ddychwelyd i Gymru i ddathlu penblwydd priodas cyntaf Gary a Nell.
Aeth y Newmans i weld castell Oxwich a'r bae a dywedodd y ddau eu bod yn brydferth iawn, meddai Mrs Proctor.