Cymorth?
Beth yw RSS?
Mae RSS yn ffordd hawdd ichi gael yr wybodaeth diweddaraf ar eich hoff wefannau. Yn lle gorfod mynd at wefannau i weld a ydyn nhw wedi ysgrifennu erthygl neu adran newydd, gallech ddefnyddio RSS (sy'n sefyll am y geiriau Saesneg Really Simple Syndication) er mwyn cael y wefan honno i ddweud wrthoch chi bob tro mae ganddi rywbeth newydd.
Mae Newyddion y BBC bellach yn cynnig porthiant (neu sianel) RSS ar gyfer y rhan fwyaf o'i adrannau, e.e. World, Business, ac yn y blaen.
Sut alla'i ddefnyddio RSS?
Yn gyffredinol, mae'n rhaid ichi gael gafael ar raglen o'r enw Darllenydd Newyddion. Mae hyn yn arddangos ar eich cyfrifiadur yr wybodaeth RSS sy'n deillio o'r gwefannau yr ydych yn eu dewis.
Y cyfan sy'n rhaid ichi wneud wedyn yw dewis pa borthiant RSS yr hoffech ei gael, er enghraifft, porthiant RSS o'r holl newyddion Cymraeg gan adran Newyddion BBC Cymru'r Byd.
Sut alla'i gael Darllenydd Newyddion?
Mae ystod o wahanol fathau o Ddarllenydd Newyddion ar gael; cliciwch ar y ddolen Google ar y dde er mwyn dod o hyd i'r cynnyrch mwyaf poblogaidd, y mae llawer ohonyn nhw'n rhad-ac-am-ddim i'w gosod ar eich cyfrifiadur.
Mae gwahanol fathau o Ddarllenydd Newyddion yn gweithio ar wahanol systemau gweithredu, felly bydd rhaid ichi gymryd hyn i ystyriaeth wrth wneud eich dewis.
Sut alla'i danysgrifio i borthiant RSS gan Newyddion y BBC?
Ewch i'r adran Newyddion BBC y mae gennych ddiddordeb ynddi (e.e. Newyddion). Cliciwch ar y ddolen sy'n dweud 'fersiwn RSS' yn y stribed 'gwasanaethau' coch ar waelod y tudalen.
Yna bydd yn rhaid ichi ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer eich Darllenydd Newyddion neilltuol chi er mwyn ychwanegu'r porthiant XML hwn at eich rhestr RSS.
Bydd y ddolen honno yn eich cymryd at dudalen fel hon, gyda chyswllt i'r porthiant perthnasol ar y brig.
Isod ceir dewis o'r tudalennau Newyddion BBC sydd ar gael i'w syndiceiddio