British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Medi 2011, 09:44 GMT 10:44 UK
Manylion angladd glowyr

Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell
Y pedwar glwr fu farw: Charles Breslin, Phillip Hill (uchaf) a Garry Jenkins, a David Powell (gwaelod, chwith i dde)

Cyhoeddwyd manylion am angladdau'r pedwar glowr a fu farw ym mhwll glo Gleision ger Pontardawe.

Bydd angladd Charles Breslin, 62 oed o Gwm Tawe, yn amlosgfa Abertawe am 3pm ddydd Mercher.

Bydd angladd Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd, yn amlosgfa Margam ddydd Gwener am 2pm, gydag angladd Garry Jenkins, 39 o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa am 11.15am ddydd Sadwrn a'r gladdedigaeth yn Ystradgynlais.

Dyw manylion angladd David Powell o Gwm Tawe heb eu cadarnhau.

Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad i'r ddamwain.

Y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu'r De sy'n arwain yr ymchwiliad i'r marwolaethau.

Dywedodd y byddai'r ymchwiliad yn un "hir a chymhleth, ond fe fyddwn yn gwneud poeth posib i ddarganfod sut y gwnaeth y pedwar dyn golli eu bywydau".



HEFYD
Cynulliad: Teyrnged i'r glowyr
20 Medi 11 |  Newyddion
Teyrngedau teuluoedd i lowyr
19 Medi 11 |  Newyddion
Cofio'r glowyr a gollwyd
18 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Darganfod pedwerydd corff
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Deifwyr yn gorfod troi'n l
16 Medi 11 |  Newyddion
Pedwar yn sownd dan ddaear
15 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific