Y disgwyl yw i'r gwaith ddechrau ym mis Rhagfyr
|
Bydd ail ran cynllun i wario £102 miliwn ar un o brif ysbytai Cymru yn mynd yn eu blaen ym mis Rhagfyr. Mae'r gwaith yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn ceisio gwella llawer o adnoddau arbenigol ac yn sicrhau nad oes dyblygu gwaith rhyngddi ac Ysbyty Singleton yn y ddinas. Mae'r rhan gyntaf o'r gwaith i adeiladu man glanio i hofrennydd, llwybrau ac isadeiledd ar gyfer ffyrdd newydd gwerth £17m wedi'u cwblhau. Bydd y rhan nesaf o'r cynllun yn cynnwys cael gwared ar hen adeiladau a godwyd yn yr 1940au a chreu adnoddau endosgopeg i gynnal archwiliadau mewnol. 'Yr Ail Ryfel Byd' Hefyd bydd uned arbennig i gynnwys yr holl waith ar ail-lunio wynebau a thrin y pen a'r gwddw yn cael ei greu yn ogystal â chreu rhagor o adnoddau i drin anhwylderau'r aren. Y gobaith yw y bydd yr adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod gwanwyn 2012. Dywedodd Paul Stauber, cyfarwyddwr cynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i adnewyddu safle Ysbyty Treforys gan gymryd lle adeiladau gafodd eu hadeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd." Penderfynodd Llywodraeth Cymru gymeradwyo'r gwaith ym mis Mawrth eleni. Bydd y bwrdd iechyd yn cyflwyno achos busnes ar gyfer yr ail ran o'r cynllun ym mis Tachwedd a'r disgwyl yw i'r gwaith ddechrau ym mis Rhagfyr.
|