British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Medi 2011, 10:44 GMT 11:44 UK
Jones i dorri record capiau Cymru

Stephen Jones
Enillodd Stephen Jones ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica ym 1988

Bydd Stephen Jones yn curo record Gareth Thomas am y nifer o gapiau dros ei wlad pan fydd e'n chwarae i Gymru yn erbyn Namibia.

Bydd maswr y Scarlets yn ennill cap rhif 101 pan fydd e'n chwarae yn Stadiwm Taranaki yn New Plymouth am 7.30am ddydd Llun

Mae yna unarddeg newid i'r pymtheg a ddechreuodd yn y fuddugoliaeth 17-10 yn erbyn Samoa'r wythnos diwethaf.

Roedd Jones fod torri'r record yn erbyn Lloegr yn Twickenham fis Awst ond toc cyn dechrau'r ornest fe gafodd anaf i'w goes ac nid yw e wedi chwarae ers hynny.

'Tipyn o brofiad'

Am fod James Hook wedi ei anafu fe fydd Lee Byrne yn ymddangos yn safle'r cefnwr.

Bydd y prop Gethin Jenkins yn chwarae am y tro cyntaf ers naw mis ar ôl iddo anafu ei droed a'i groth

Bydd Ryan Jones yn dychwelyd i'r tîm wedi iddo wella yn dilyn anaf i'w groth.

Ni fydd Hook na Dan Lydiate ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Namibia nac ychwaith yn erbyn Fiji ar Hydref 2.

Yn ogystal, mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi datgan ei fod yn bosib na fydd yr asgellwr Shane Williams ar gael i chwarae yn erbyn Fiji wedi iddo anafu cyhyr yn ei goes.

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Yn dilyn dwy gêm galed yn erbyn De Affrica a Samoa rydyn ni wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau gan gyflwyno tipyn o brofiad i'r tîm, yn enwedig o ran Stephen Jones, Ryan Jones a Gethin Jenkins.

Cymru

Lee Byrne; Leigh Halfpenny; Jonathan Davies, Scott Williams; Aled Brew; Stephen Jones, Tavis Knoyle; Gethin Jenkins, Lloyd Burns, Craig Mitchell, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Sam Warburton (capt), Toby Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Ryan Bevington, Luke Charteris, Andy Powell, Lloyd Williams, Rhys Priestland, George North.

NAMIBIA: Chrysander Botha; Danie Van Wyk, Piet Van Zyl, Darryl De La Harpe, Danie Dames; Theuns Kotze, Eugene Jantjies; Johnnie Redelinghuys, Hugo Horn, Jané Du Toit, Heinz Koll, Nico Esterhuyse, Tinus Du Plessis, Jacques Burger (capt), Jacques Nieuwenhuis.

Eilyddion: Bertus O'Callaghan, Raoul Larson, Wacca Kazombiaze, Rohan Kitshoff, Ryan De La Harpe, TC Losper, David Philander.

Gallwch wrando ar y cyffro i gyd o New Plymouth, Seland Newydd, wrth i Gymru herio Namibia yn eu trydedd gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011 ar BBC Radio Cymru am 7.15am ddydd Llun.



HEFYD
Buddugoliaeth gyntaf i Gymru
18 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific