British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 20:53 GMT 21:53 UK
Gwasanaethau labordy yn dod i ben

Labordy DEFRA
Y ganolfan agosaf fydd yr un yn yr Amwythig

Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol wedi cyhoeddi y bydd eu gwasanaethau labordy yn dod i ben yn Aberystwyth a Chaerfyrddin erbyn Mawrth 2013.

Ond bydd undeb Prospect yn lobio Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r cynlluniau.

Bydd y newidiadau yn golygu na fydd gan yr asiantaeth labordy yn darparu gwasanaeth i brofi anifeiliaid yng Nghymru.

Bydd y newidiadau yn effeithio ar 20 aelod o undeb Prospect yn Aberystwyth a chwe aelod yng Nghaerfyrddin.

Y ganolfan agosaf fydd yr un yn yr Amwythig.

Pwrpas y labordai milfeddygol yw profi iechyd anifeiliaid rhag ofn bod clefydau fel clwy'r traed a'r genau, y diciâu mewn gwartheg a chlwy'r moch.

Mae'r asiantaeth yn rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Mae DEFRA'n honni y byddan nhw'n arbed £2.4m y flwyddyn wrth gau wyth o'u 14 o ganolfannau ym Mhrydain, gan gynnwys y labordai yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ond mae'r undeb, sy'n poeni y bydd 90 yn colli eu swyddi, wedi dadlau y byddai'r arbedion yn werth bron dim o gofio cost methu â chanfod clefyd fel clwy'r traed a'r genau mewn da bryd.

'33%'

Dywedodd Geraldine O'Connell, Ysgrifennydd Prydeinig Prospect, fod clwy'r traed a'r genau wedi costio £8bn yn 2001.

"Dyw Prydain ddim yn gallu fforddio colli cymaint o staff labordy medrus na chwaith golli'r fath gyfleusterau profi.

"Mae'r cyhoeddiad wedi cadarnhau ein pryderon am ddyfodol y labordai ac rydyn ni'n dal yn bryderus ynglŷn ag effaith tymor hir y cyhoeddiad ar ddyfodol y safleoedd hyn."

"Yn waeth byth, fe fydd cau'r labordai yn golygu y bydd ffermwyr a milfeddygon yn derbyn gwasanaeth tila oherwydd byddai rhaid iddyn nhw aros am ganlyniad profion o ganolfannau fydd yn bell i ffwrdd.

"Fe fyddwn ni'n cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio arbed y canolfannau hyn rhag cau."

Dywedodd llefarydd ar ran Prospect y bydd y newidiadau yn effeithio ar bum milfeddyg, 11 gwyddonydd a phedair swydd weinyddol yn Aberystwyth a thri gwyddonydd, un milfeddyg a dwy swydd weinyddol yng Nghaerfyrddin.

Cymeradwyo

Nawr bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidog yr Amgylchedd, meddai'r asiantaeth, bydd labordai yn cael eu lleoli yn Bury St Edmunds, Lasswade, Newcastle, Penrith, yr Amwythig, Starcross, Sutton Bonington and Weybridge

Ychwanegodd: "Ni fydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd y canolfannau yn cau.

"Mae gwasanaethau labordy eraill fel Cadw Gwyliadwriaeth Filfeddygol yn cael eu cynnal yn ein labordai a dyw'r cynllun ddim yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r gwaith hwn."



HEFYD
Pris tir amaethyddol wedi codi
18 Awst 11 |  Newyddion
Dwyn gwerth £1.7m o ffermydd
08 Awst 11 |  Newyddion
Torf sylweddol i'r Sioe Frenhinol
21 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific