|
Mae gwefan Golwg360 wedi penodi golygydd newydd i fod yn bennaf gyfrifol am gynnwys y gwasanaeth. Mae Bethan Lloyd yn cymryd lle Ifan Morgan Jones sydd wedi bod yn y swydd ers i'r gwasanaeth gael ei lansio ym Mai 2009. Roedd Bethan Lloyd yn Is-olygydd a Golygydd yr Iaith Gymraeg gyda'r Western Mail am ddeuddeg mlynedd. Cyn hynny bu'n ohebydd i BBC Radio Cymru ac i'r Caernarfon & Denbigh Herald, Yr Herald Gymraeg a'r Rhyl & Abergele Visitor. 'Cyfrwng cyffrous' Dywedodd Bethan Lloyd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm Golwg360 sy'n arwain gyda straeon sydd o ddiddordeb i bobl yng Nghymru. "Mae'r we'n gyfrwng cyffrous iawn ac mae Golwg360 eisoes yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sy'n cymharu'n ffafriol â gwefannau newyddion mewn ieithoedd eraill. "Mae gen innau syniadau newydd ac rwy'n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu Golwg360 ymhellach." 'Profiadol' Yn ôl Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone: "Rydan ni'n falch iawn o allu penodi rhywun mor brofiadol â Bethan i'r swydd allweddol yma. "Ers lansio'r gwasanaeth ddwy flynedd yn ôl mae Ifan Morgan Jones wedi gosod Golwg360 ar sail gadarn, gan ddarparu newyddion Cymraeg di-baid ar y We. "Rydym nawr yn edrych ymlaen at y bennod nesaf yn hanes datblygiad y gwasanaeth dan arweiniad Bethan, ac yn gwybod y bydd ganddi lawer o syniadau i'w rhoi ar waith." Cytundeb Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddwyd y bydd y cytundeb rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a gwefan Golwg360 yn parhau am dair blynedd arall. Bryd hynny, dywedodd Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones, fod y gwasanaeth wedi sefydlu ei hun fel ffynhonnell newyddion rhyngwladol ac o Gymru. Ym mis Mawrth 2010 roedd y Cyngor Llyfrau wedi comisiynu cwmni Wavehill o Aberaeron i gynnal arolwg o'r gwasanaeth, gan gasglu barn defnyddwyr am y gwasanaeth a phatrymau ymweld â'r wefan. Roedd canmoliaeth gyffredinol i safon newyddiaduraeth y gwasanaeth. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar ffyrdd o ddatblygu'r gwasanaeth.
|