British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 25 Medi 2011, 09:33 GMT 10:33 UK
Parc Cenedlaethol: Dathlu penblwydd

Fel rhan o Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol a'r dathliadau ar ei ben blwydd yn 75, mae 'Parti yn y Parc' arbennig wedi'i drefnu yn nhir Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus heddiw.

Gyda Phen y Fan yn gefnlen, caiff y Parti ei gynnal am ddim yn nhiroedd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus rhwng 11am a 5pm.

Bydd nifer o weithgaeddau yn cael eu cynnal gan gynnwys peli laser, bwa saeth, castell neidio, peintio wynebau, peli paent, crochenwaith, arddangosfa tylluanod, cerddoriaeth, gwersi crochenwaith, llogi beiciau a theithiau tywys.

Bydd hefyd gerddoriaeth fyw gyda Band Tref Aberhonddu'n perfformio o 2pm tan 4pm.

'Teithiau cerdded'

"Rydym wrth ein bodd bod Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol wedi dewis Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Parc ei ben blwydd yn 75," meddai Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

"Does dim ffordd well o ddathlu pen blwydd na diwrnod llawn hwyl, gyda cherddoriaeth ac adloniant bendigedig y gall y teulu i gyd ei fwynhau.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd cynifer ag sy'n bosibl yn dod i fwynhau ein teithiau cerdded, bywyd gwyllt a gweithgareddau hwyl a fydd ar gael trwy'r dydd."

Bydd bwyd a lluniaeth ar gael trwy'r dydd yn Ystafelloedd Te Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ac mewn bar y tu allan.

Dywedodd Norma Barry, Pennaeth Materion Cymreig Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol: "Mae ein Parciau Cenedlaethol yma i'w mwynhau gan bawb."

"Mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol yn arbennig o ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd ar gyfer trefnu'r digwyddiad hwn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'i noddwyr."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific