British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 14:57 GMT 15:57 UK
Wrecsam: Diwedd cytundeb?

Clwb PÍl-Droed Wrecsam
Mae'r clwb wedi wynebu cyfnod anodd iawn yn ddiweddar

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ystyried cynnal trafodaethau newydd a gwerthu'r clwb i rywun heblaw Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Dywedodd y perchnogion fod yr ymddiriedolaeth wedi ceisio newid telerau'r cytundeb.

Roedd hynny, meddai'r perchnogion, "yn gwbl afresymol ac annerbyniol."

Dywedodd y clwb: "Bwriad y cyfarwyddwyr presennol yw gofyn am flaendal (na ellir ei ad-dalu) erbyn 5pm ddydd Llun, Medi 26.

"Byddai hyn yn caniatáu i drafodaethau barhau .. pe na bai hynny'n digwydd ni fydd yna ddewis ond dechrau trafodaethau ag eraill sydd â diddordeb mewn prynu'r clwb."

Mae'r perchnogion wedi honni bod y dryswch am ddyfodol y clwb yn gysylltiedig â phenderfyniad y rheolwr Dean Saunders i adael ddydd Gwener.

Ar Fedi 13 fe wnaeth y clwb a'r ymddiriedolaeth gyhoeddi eu bod wedi cytuno gwerthu'r clwb "mewn egwyddor".



HEFYD
E-bost yn siomi Saunders
26 Awst 11 |  Newyddion
Wrecsam: Caniat‚d i gychwyn y tymor
10 Awst 11 |  Newyddion
Clwb: Rhaid argyhoeddi Cynghrair
08 Awst 11 |  Newyddion
Gwerthu'r Cae Ras i Brifysgol
05 Awst 11 |  Newyddion
Clwb: Chwaraewyr heb gyflogau
28 Gorff 11 |  Newyddion
Dyfodol clwb Wrecsam 'mewn peryg'
14 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific